Mae S4C wedi adnewyddu hawliau darlledu ar gyfer y Bencampwriaeth Rygbi Unedig (URC), gan sicrhau bod y gystadleuaeth yn parhau ar deledu am ddim ar draws y DU i’r ddau dymor nesaf.

O dan y cytundeb newydd, bydd S4C yn dangos un gêm rhanbarthau Cymru yn fyw ym mhob rownd o’r gystadleuaeth, yn ogystal ag ail gêm yn cael ei ddarlledu ar amseroedd gohiriedig.

Yn ystod tymor 2025–26, bydd cyfanswm o 20 gêm fyw a 18 gêm ar amseroedd gohiriedig yn cael eu dangos ar draws y sianel.

Mae S4C wedi darlledu’r gystadleuaeth ym mhob un o’r 24 tymor, ers ei lansio’n wreiddiol fel y Gynghrair Geltaidd yn 2001. Mae adnewyddu’r cytundeb yma yn atgyfnerthu statws y sianel fel cartref rygbi Cymru.

Dywedodd Sue Butler, Pennaeth Chwaraeon S4C: “Rydym wrth ein bodd i allu adnewyddu ein hymrwymiad i ddarllediadau byw o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig o fis Medi ymlaen. Mae S4C wastad wedi bod yno i ranbarthau Cymru gyda darllediadau ar deledu am ddim sydd mor bwysig i’r gêm yng Nghymru.

“Rydym yn edrych ymlaen at ddilyn cynnydd rhanbarthau Cymru, gyda sylwebaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gael ar ein holl lwyfannau ar gyfer y tymor newydd hwn.”

Dywedodd Martin Anayi, Prif Weithredwr y Bencampwriaeth Rygbi Unedig: “Mae ein partneriaeth gyda S4C mor werthfawr oherwydd eu ffydd yn y gystadleuaeth o’r cychwyn cyntaf. Gwelon nhw’r weledigaeth wreiddiol gan y Gynghrair Geltaidd a chroesawu ehangu’r gystadleuaeth i’r Eidal ac yna i Dde Affrica. Maent wedi arddangos yr eiliadau rhyfeddol ac wedi ein cefnogi yn ystod y cyfnodau anoddaf.

“Maent wedi darlledu coroni timau’r Scarlets a’r Gweilch fel pencampwyr, ac ers chwarter canrif maen nhw wedi tynnu sylw at sêr y gêm yng Nghymru ac yn rhyngwladol sydd yn mynd benben â’i gilydd yn ein cynghrair.

“Fel cynghrair, rydym yn ddiolchgar bod darllediadau o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn parhau ar deledu am ddim i bawb ar draws y DU ac Iwerddon diolch i’r estyniad hwn gyda S4C, a’r adnewyddiad gyda TG4 a gyhoeddwyd gennym ychydig fisoedd yn ôl. Mae’n rhaid i chwaraeon proffesiynol gerdded raff denau rhwng sicrhau bod y gêm yn cael ei hariannu’n dda tra’n darparu mynediad ac ymwybyddiaeth i gefnogwyr newydd hefyd.

“Rydym yn falch o gynnal y cydbwysedd hwnnw yn ein cylch darlledu newydd ac hoffwn ddiolch i bawb yn S4C am eu cefnogaeth barhaus i’r gynghrair ac i rygbi Cymru.”

Bydd gemau’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig ar gael ar S4C, S4C Clic, BBC iPlayer ac ar sianel YouTube S4C Chwaraeon. Bydd sylwebaeth Saesneg hefyd ar gael ar y darllediadau byw ar y platfformau hyn. (Bydd y gemau gohiriedig ar gael yn Gymraeg yn unig.)

Mae’r darllediadau byw yn cychwyn gyda’r gêm rhwng Caerdydd a’r Lions ar ddydd Sadwrn 27 Medi am 19:15 (cic gyntaf 19:45).

Yn ogystal â'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig, bydd S4C yn darlledu Super Rygbi Cymru, prif gystadleuaeth ddomestig Cymru, sy'n dychwelyd ar ddydd Gwener 12 Medi gyda’r gêm agoriadol rhwng Casnewydd a Llanymddyfri ar S4C, S4C Clic, BBC iPlayer ac ar sianel YouTube S4C Chwaraeon.

Ac am y tro cyntaf, bydd un gêm fyw ym mhob rownd o Super Rygbi Cymru, gyda sylwebaeth ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg ar S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube S4C Chwaraeon.

Yn ogystal, bydd uchafbwyntiau o bob un o’r 99 gêm ar gael ar YouTube a rhaglen uchafbwyntiau wythnosol ar nos Fawrth yn cynnwys pob gêm. Mi fydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar y darllediadau nos Fawrth.