MAE Urdd Gobaith Cymru wedi cadarnhau y bydd trefn newydd ar gystadlaethau Eisteddfod yr Urdd wrth i’r mudiad lansio gŵyl saith diwrnod ar Ynys Môn yn 2026.
Cyhoeddwyd bwriad yr Urdd i ehangu’r brifwyl o chwech i saith diwrnod yn ystod Eisteddfod yr Urdd eleni, a hynny mewn ymateb i’r cynnydd yn y niferoedd sy’n cofrestru i gystadlu ynghyd â cheisiadau am gystadlaethau newydd.
Yn dilyn cyfres o eisteddfodau cylch a rhanbarth yn y gwanwyn, cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ynys Môn 2026 ar Gae Sioe Môn ger Gwalchmai rhwng dydd Sadwrn y Sulgwyn, 23 Mai a dydd Gwener 29 Mai.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi gweld yr Urdd yn cydweithio gydag aelodau, aelwydydd, ysgolion a phwyllgorau lleol i sicrhau bod y trefniadau newydd yn cynnig mwy o gyfleoedd nag erioed i ymwneud â’r Gymraeg drwy’r celfyddydau.
Mae trefn newydd cystadlaethau Eisteddfod yr Urdd fel â ganlyn:
- Dydd Sadwrn: Dysgwyr, Dawnsio Disgo
- Dydd Sul: Aelwydydd
- Dydd Llun: Uwchradd bl10 a dan 19, ADY
- Dydd Mawrth: Uwchradd bl7,8,9 ac offerynnol bl10 a dan 25
- Dydd Mercher: Adrannau, Uwchradd offerynnol bl7,8,9
- Dydd Iau: Cynradd (Cân actol a Pherfformiad theatrig i ysgolion ac Adrannau)
- Dydd Gwener: Cynradd
Mae dros 400 o gystadlaethau yn cael eu cynnal yn Eisteddfod yr Urdd erbyn hyn, ac mae cystadlaethau newydd yr ŵyl yn amrywio o rai i gorau ac unawdwyr i fonolog a dawns.
Roedd 119,593 o gofrestriadau i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025, sy’n fwy nag erioed o’r blaen, ynghyd â chynnydd sylweddol (o 42%) yn y nifer o ddysgwyr Cymraeg ifanc yn cymryd rhan yn yr ŵyl o gymharu â 2024.
Eleni cafwyd mwy nag erioed (247) o oriau o gynnwys o faes yr Eisteddfod ar draws llwyfannau S4C, ynghyd â darllediadau dyddiol ar BBC Radio Cymru a Radio Cymru 2. Bydd y bartneriaeth ddarlledu yn parhau gydag S4C a BBC Radio Cymru.
.jpeg?width=752&height=500&crop=752:500)
Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: “Mae Eisteddfod yr Urdd yn ŵyl sy’n esblygu ac yn gwrando ar ein haelodau. Felly i sicrhau ein bod ni’n parhau i fod yn fudiad cynhwysol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, rydym wedi cydweithio â’r cyhoedd i greu’r amserlen gystadlu newydd hon.
“Mae ymgynghori a chydweithio gyda channoedd o aelodau a hyfforddwyr wedi sicrhau bod y trefniadau newydd yn cynnig mwy o gyfleoedd nag erioed i gymryd rhan, a diolchwn i’r holl bobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o’r ymgynghoriad cenedlaethol yn enwedig. Eu gŵyl nhw ydi Eisteddfod yr Urdd, ac mae derbyn eu mewnbwn i’r broses wedi bod yn amhrisiadwy. Gobeithiwn fydd y datblygiad yma’n arwain at fwy fyth yn ymwneud â’r Gymraeg a’r celfyddydau, a hynny drwy eu perthynas â’r Urdd.”
Meddai Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: “Rwy’n falch iawn ein bod yn medru cefnogi’r Urdd wrth iddyn nhw arloesi i ymestyn cyfleon i bobl ifanc yn y Gymraeg. Ehangu cyrhaeddiad y Gymraeg yw’r nod i ninnau yn S4C hefyd, trwy ddod â chyffro’r ŵyl a’r cystadlu i gynulleidfaoedd ar draws ein platfformau.”
Meddai Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn, Manon Wyn Williams: “Mae’r cynnydd blynyddol o ran y nifer sy’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn galonogol iawn ac yn golygu bod mwy a mwy o blant a phobl ifanc yn cael cyfleoedd amhrisiadwy drwy’r mudiad.
“Mae’r diolch am hynny i waith diflino hyfforddwyr, athrawon, gwirfoddolwyr a staff gweithgar yr Urdd ledled Cymru. O ganlyniad, mae ymestyn hyd yr Eisteddfod i saith niwrnod yn ddatblygiad hanfodol a chyffrous. Mae’n fraint ein bod ni ym Môn yn cael croesawu’r Eisteddfod arbrofol hon ac mae’n gyfle i edrych o’r newydd ar strwythur yr ŵyl gan gydweithio â phlant a phobl ifanc Cymru wrth wneud hynny. Edrychwn ymlaen at groesawu pawb i’r Fam Ynys y flwyddyn nesaf!”
Rhestr Testunau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ynys Môn 2026
Cyhoeddwyd Rhestr Testunau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ynys Môn 2026 ddydd Llun.
Mae’r Rhestr Testunau yn amrywio o gystadlaethau llwyfan a chyfansoddi i bobl ifanc o dan 25, a ddewiswyd gan banelau a gwirfoddolwyr lleol. Gellir lawrlwytho Rhestr Testunau 2026 yn rhad ac am ddim oddi ar wefan yr Urdd ynghyd â threfn newydd y cystadlaethau.
Er mwyn dathlu dyfodiad yr ŵyl i Fôn, bydd Gŵyl Groeso Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn, 20 Medi.
Yn dilyn gorymdaith trwy dref Llangefni, cynhelir prynhawn o hwyl a gig ym Mhafiliwn Cae Sioe Môn, gyda pherfformiadau gan Celt, Fleur de Lys a Cordia.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i urdd.cymru/eisteddfod
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.