Mae S4C am y tro cyntaf wedi'i dewis i gynnal Rownd Feirniadu Cyn-Derfynol ar gyfer cystadleuaeth yr Emmy® Rhyngwladol 2025 yn swyddogol, digwyddiad nodedig sy'n cydnabod rhagoriaeth mewn rhaglenni teledu byd-eang.

Mewn cydweithrediad â Cymru Greadigol, bydd S4C yn goruchwylio'r beirniadu yng nghategori Plant: Animeiddio. Bydd y digwyddiad unigryw hwn yn digwydd ar 30 Mehefin 2025 yng Nghastell Caerdydd, gan gynnig cefnlen briodol ar gyfer y dathliad hwn o greadigrwydd rhyngwladol yng Nghymru.

Mae beirniaid wedi cael eu dewis a'u harchwilio'n fanwl cyn y digwyddiad. Ar ôl y sesiwn feirniadu, cynhelir noson o groeso ar gyfer arweinwyr yn y diwydiant, y rheiny sydd yn creu ac eraill o fewn y diwydiant.

Mae proses feirniadu Gwobrau Emmy Rhyngwladol yn ymestyn dros dair rownd yn flynyddol. Mae'r rownd gychwynnol yn cael ei chynnal ar-lein yn y gwanwyn, wedi'i dilyn gan rownd cyn-derfynol a gynhelir yn ryngwladol gan aelodau'r Academi yn ystod yr haf. Mae'r rownd derfynol o feirniadu'n digwydd ym mis Hydref.

Mae Academi Ryngwladol Celfyddydau a Gwyddorau Teledu (ATAS), a sefydlwyd ym 1969, wedi bod yn cyflwyno Gwobrau Emmy Rhyngwladol ers 1973 i anrhydeddu rhaglenni teledu gwych a gynhelir y tu allan i'r UDA.

Bydd enillwyr yn y categori Plant: Animeiddio yn cael eu cyhoeddi yn y Gwobrau Emmy® Rhyngwladol, yn Efrog Newydd ar ddydd Llun, Tachwedd 24 2025.

Mae gan S4C berthynas hirhoedlog ag animeiddio ddechreuodd yn 1982 gyda'r arch arwr Cymraeg Superted, un o ddarllediadau cyntaf erioed y sianel.

Dwy flynedd yn ddiweddarach, daeth cyfres gyntaf o Y Smyrffs ar yr awyr, rhaglen sydd wedi dychwelyd yn ddiweddar i'r sianel.

Yn y 1980au hwyr, comisiynodd S4C Sam Tân ddatblygodd i fod yn lwyddiant fyd-eang.

Yn ystod yr 1990au, roedd y darlledwr yn gyfrifol am gynhyrchu Tomos a’i Ffrindiau ac yn y blynyddoedd diweddar, mae'r sianel wedi caffael hawliau iaith Gymraeg i nifer o animeiddiadau poblogaidd, gan gynnwys Peppa Pinc, Patrol Pawennau, Guto Gwningen, Bing, Dreigiau: Marchogion Berc a Dreigiau: Gwarchodwyr Berc a Kung Fu Panda.

Mae'r Smyrffs yn dychwelyd i S4C
Y Smyrffs (S4C)

Mae S4C yn parhau i gefnogi prosiectau gwreiddiol a chydweithredol fel Sol, wedi’i chyllido ar y cyd am golled plentyn wedi’i chynhyrchu gyda phartneriaid yn Iwerddon a’r Alban, a Li-Ban, animeiddiad wedi’i chyd-gynhyrchu â TG4/Cúla4. Mae S4C hefyd wedi comisiynu Howie a Hilda, a fydd yn cychwyn ar YouTube, gyda chefnogaeth gan Cymru Greadigol, gan geisio sefydlu IP a brand Cymreig newydd.

Mae S4C wedi ymrwymo i ehangu cyfleoedd ar draws pob categori, gan ddangos dyhead ehangach i gefnogi a thyfu y sector sgrin yng Nghymru yn y cartref ac o fewn marchnadoedd rhyngwladol.

Meddai Gwenllian Gravelle, Aelod o'r Academi Rhyngwladol a Phennaeth Ffilm a Drama S4C: “Mae S4C yn falch o adeiladu a chryfhau ein cysylltiadau gyda chydweithwyr yn y diwydiant ledled y byd. Rydym yn wirioneddol yn edmygu Academi Ryngwladol Celfyddydau & Gwyddorau Teledu a’u hangerdd wrth ddathlu teledu o safon uchel a gynhelir y tu allan i'r UDA.

“Mae'r Emmys Rhyngwladol yn llwyfan gwych ar gyfer cydnabod dawn, rhannu syniadau, a chysylltu â rhai gorau o'r byd creadigol. Mae’n anrhydedd go iawn cynnal categori mor bwysig am y tro cyntaf a chyfle gwych i daflu golau ar Gymru a'r doniau anhygoel sydd gennym i'w cynnig.”

Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog dros Ddiwylliant: “Mae'n achlysur mor bwysig i Gymru gael cynnal Rownd Feirniadu Cyn-Derfynol yr Emmy® Rhyngwladol yng Nghaerdydd. Mae'r Emmy's yn farc ansawdd a gydnabyddir yn fyd-eang ar gyfer talent creadigol, a dyma gyfle gwych i groesawu arweinwyr y diwydiant sydd yn gweithio'n galed i nodi'r gorau mewn Animeiddio yn 2025.

“Mae animeiddio wedi bod yn rhan o hunaniaeth greadigol Cymru ers amser maith - o SuperTed chwedlonol a Sam Tân i lwyddiannau byd-eang mwy cyfoes Y Smyrffs.

“Mae gan ein cenedl draddodiad balch a dyfodol disglair mewn animeiddio, yn ogystal â ffilm a theledu yn gyffredinol, ac mae'r digwyddiad uchel ei barch hwn nid yn unig yn dathlu rhagoriaeth Cymru yn y sector ond hefyd yn darparu llwyfan gwerthfawr i arddangos ein gwlad, ein hiaith, a'r talent creadigol o ansawdd ryngwladol sy’n gwneud Cymru yn rym sy’n parhau i dyfu yn y maes darlledu rhyngwladol.

“Drwy Gronfa Cynhyrchu Cymru Greadigol, rydym wedi buddsoddi dros £29miliwn ers 2020, gan gynhyrchu £358miliwn disgwyliedig at economi Cymru - dyna £12 am bob £1 a fuddsoddir, rydym yn awyddus i barhau i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw gan weithio gyda'r sector.”