YR wythnos hon cyhoeddir cyfrol ryddiaith gyntaf y bardd Grug Muse, Croesi Cyfandir ar Ddwy Olwyn (Y Lolfa).
Mae’r llyfr yn dilyn ei thaith beic 4,000 o filltiroedd o Cape Cod i Portland, Oregon – taith solo 80 diwrnod.
Yn 2016 fe ddechreuodd Grug a’i beic newydd-i-hi, Surly Long Haul Trucker du, ar eu taith ar hyd y cyfandir.
Er i Grug gael ei geni ym Mhen-y-groes, Gwynedd, mae’n ddinesydd yr Unol Daleithiau hefyd.

Meddai Grug: “Mi roeddwn i eisiau antur, a gan fod gen i basbort yr UDA (mae ei thad o America), a dwi wedi bod yn mynd i’r UDA yn lled-reolaidd ers blynyddoedd, mi oedd croesi’r cyfandir yna yn teimlo fel dewis amlwg.”
Dechreuodd Grug gynllunio ei thaith yng nghegin Grandma a Grandpa yn Cape Cod.
Rhwng Cape Cod ar arfordir dwyreiniol America ac Oregon yn y gorllewin roedd miloedd o bethau i’w hystyried, gan gynnwys y tywydd a bryniau, lonydd diogel a thraffig, llefydd i gysgu ac i gael bwyd, dŵr yfed a chawod, llefydd diddorol a llefydd i’w hosgoi, fel un oedd yn teithio ar ei phen ei hun.
Wrth i Grug bleidleisio yn yr etholiad arlywyddol ym mis Hydref 2024, aeth ati i gofnodi ei thaith drwy America, siwrnai ddadlennol am le, pobol, diwylliant, gwleidyddiaeth a chredoau. Mae ei chyfrol yn cynnwys map o’i llwybr ynghyd â lluniau o siwrne Grug.
Ychwanegodd: “Drwy deithio ar ben dy hun, rwyt ti’n dod i siarad gyda gwahanol bobl.
“Mi wnes i golli fy mhasbort yn North Dakota, ac yn y broses o chwilio amdano fo, mi ddois i o hyd i lyfrgellydd oedd yn siarad Cymraeg mewn tref fach yn ganol nunlle.
“Fe ddysgais lawer o bethau ar y daith gyntaf yna – be i neud os wyt ti mewn pabell mewn storm fellt a tharanau; sut i drwsio pyncjar; ac am bob allt am i fyny ma ’na riw am i lawr.”
Ers y daith gyntaf, mae Grug wedi teithio ar hyd Iwerddon ar ei beic, ynghyd â rhwng gogledd a de Cymru sawl gwaith, i Swydd Efrog, Gwlad yr Haf a Dyfnaint.
O fewn pythefnos i gyrraedd yn ôl i Gymru, dechreuodd ar MPhil a drodd yn PhD ar lên taith yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe a threuliodd y blynyddoedd canlynol yn darllen ac yn sgwennu am deithiau pobl eraill yn yr Americas.
Bydd Croesi Cyfandir ar Ddwy Olwyn yn cael ei lansio’n swyddogol am 3 o’r gloch prynhawn Sadwrn 29ain Tachwedd yn Palas Print, Caernarfon. Croeso mawr i bawb!
Mae Croesi Cyfandir ar Ddwy Olwyn gan Grug Muse ar gael nawr (£11.99, Y Lolfa).





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.