MAE Tara Bandito wedi bod yn perfformio’n fyw mewn chwe ysgol uwchradd yng Ngwynedd cyn y Pasg mewn taith arbennig i ysgolion.

Cafodd neuaddau arholiad ac ambell ffreutur eu trawsnewid am y prynhawn, wrth i ddisgyblion fwynhau miwsig byw yn y Gymraeg.

Dechreuodd y daith yn Ysgol Dyffryn Ogwen gyda gweithdy lles a gig byw gan Tara Bandito a Tesni Hughes.

Tara Bandito oedd y brif artist ym mhob ysgol, ac yn ogystal â dod â’i hegni heintus i’w pherfformiad byw ,cynhaliwyd gweithdai lles a sesiynau cwestiwn ac ateb ym mhob ysgol, a oedd yn gyfle i ddisgyblion gael gwybod mwy am ei phrofiadau fel merch sy’n gwneud miwsig.

Yr artist hip-hop o Ddyffryn Nantlle, Skylrk. a’r gantores pop/rock/indie o Fôn, Tesni Hughes, oedd yn cefnogi Tara yn yr amrywiol ysgolion.

Meddai Iwan Hywel, pen swyddog Menter Iaith Gwynedd, oedd yn trefnu’r daith: “Wrth i ni weithio ar gynyddu defnydd iaith yn y sir, mae’n amlwg bod hynny’n cychwyn efo pobl ifanc drwy ddangos iddyn nhw be sy’n bosib yn y Gymraeg.

“Rydym fel menter yn canolbwyntio ar waith cymunedol ond yn falch o gydweithio efo’r siarter iaith mewn ysgolion i gynnig cyfleoedd i blant flasu diwylliant a chlywed am gyfleoedd gan berson profiadol fel Tara.”