FIDEO o un o sêr cyfres Gogglebocs Cymru yn esbonio ynganiad Cymraeg yw'r cyntaf erioed i gael ei wylio 1 miliwn o weithiau ar sianel Instagram S4C.

Mae clip o Maisie Awen wedi mynd yn feiral ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda'i hesboniad o sut mae troi ‘My Shoe' i 'Shwmae' yn ffordd hawdd o ddysgu’r ynganiad Cymraeg.

Mae’r fideo wedi cael ei gwylio dros 1.4  miliwn o weithiau ar sianel Instagram S4C, gyda cyfanswm y gwylio ar holl lwyfannau cyfryngau cymdeithasol S4C dros 2 filiwn.

Roedd yr olygfa hon yn rhan o ail gyfres Gogglebocs Cymru sy'n cael ei dangos ar S4C ar hyn o bryd.

Gallwch wylio'r penodau diweddaraf ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Mae S4C hefyd yn cyhoeddi cynnwys Gogglebocs Cymru ar draws ei sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys Instagram, Facebook, Tik Tok, X a YouTube shorts.

Dywedodd Maisie: “Mae jest yn nyts - sa’i hyd yn oed yn gwybod sut mae torf o 1 miliwn o bobl yn edrych!

“Mae pawb yn y gwaith yn meddwl bod o’n hileriys, gan mai stori am rywun o’r gwaith oedd e.

“O'dd e’n neis i weld yr holl comments oedd yn gefnogol i'r Gymraeg o dan y post, a rhai’n dweud byddai’n beth da i bawb, nid jest y rhai sy'n byw yng Nghymru i ddysgu chydig o eiriau Cymraeg.

“Gobeithio bydd yn annog rhywun di-Gymraeg i ddweud ‘shwmae’!”

Mae Maisie i’w gweld yn y rhaglen gyda’i mam Molara a’i brawd Finn.

Mae'r gyfres yn cynnwys cast o gymeriadau Cymraeg o Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig sydd wrth eu bodd yn gwylio'r teledu.

Maen nhw'n cael eu ffilmio gartref yn gwylio rhaglenni teledu penodol; mae'r rhain yn amrywio o gynnwys S4C i sianeli a gwasanaethau ffrydio eraill, sy'n cynnwys pob genre o ddramâu gafaelgar i sioeau cwis poblogaidd.

Mae'r gyfres yn cael ei leisio gan y digrifwr a'r darlledwr Tudur Owen.

Cynhyrchir Gogglebocs Cymru gan ddau gwmni yng Ngwynedd, Cwmni Da yng Nghaernarfon a Chwarel o Gricieth.

Dyma'r tro cyntaf i Studio Lambert a Channel 4 drwyddedu'r fasnachfraint Gogglebox i ddarlledwr arall yn y DU.