MAE Urdd Gobaith Cymru yn dathlu 75 mlynedd ers agor Gwersyll Glan-llyn – canolfan eiconig yn Llanuwchllyn sydd wedi ysbrydoli cenedlaethau drwy anturiaethau awyr agored, i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae dros miliwn wedi ymweld â Gwersyll Glan-llyn ar lan Llyn Tegid ers ei sefydlu fel canolfan swyddogol gan yr Urdd yn 1950.
Erbyn heddiw, mae Glan-llyn yn denu 30,000 o wersyllwyr y flwyddyn, yn cyflogi hyd at 60 aelod o staff ac yn meithrin arweinwyr awyr agored y dyfodol drwy gynllun prentisiaethau ym maes gweithgareddau awyr agored.
Yn ôl yr adroddiad diweddaraf ar werth economaidd yr Urdd, mae’r gwersyll yn cyfrannu £3.2m i economi Gwynedd yn flynyddol.
“Mae Gwersyll yr Urdd Glan-llyn wedi rhoi cyfleoedd i genedlaethau o bobl ifanc gael blas ar weithgareddau awyr agored a chymdeithasu yn y Gymraeg, gan gynnwys miloedd o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg newydd, a nifer ohonynt yn profi’r iaith tu allan i’r ystafell ddosbarth am y tro cyntaf,” meddai Siân Lewis, prif weithredwr yr Urdd.
“Dros y blynyddoedd diwethaf, gyda chefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru, rydym wedi buddsoddi mewn uwchraddio Canolfan Hyfforddi Gweithgareddau Dŵr Glan-llyn, ac wedi trawsnewid adeilad 150 oed, Glan-llyn Isa’, i lety hunan-arlwyo.
“Mae Glan-llyn Isa’ yn ateb y galw am lety annibynnol o’r brif safle, ac wedi bod yn hynod boblogaidd ers ei agoriad.
“Mae apêl Glan-llyn i blant a phobl ifanc mor gryf ag erioed, ac anelwn at dri chwarter canrif arall o’u croesawu i’r gwersyll i greu atgofion oes.”
Yn ogystal ag uwchraddio adeiladau a chyfleusterau i’r safon uchaf, gwelwyd datblygiadau sylweddol yng Nglan-llyn drwy ehangu’r arlwy o weithgareddau a chyrsiau a gynigir.
Meddai Mair Edwards, cyfarwyddwr Gwersyll Glan-llyn: “Mae ein hymrwymiad i sicrhau fod yr Urdd i bawb yn glir yn ein darpariaeth o weithgareddau dŵr a thir hygyrch, a’n staff yn mwynhau rhannu eu brwdfrydedd am yr awyr agored gydag ymwelwyr o bob oed a gallu.
“Yn ogystal â denu grwpiau addysgiadol yn ystod y tymor, mae ein gwersylloedd haf yn boblogaidd tu hwnt, a Chronfa Cyfle i Bawb yr Urdd yn sicrhau fod cannoedd o blant a phobl ifanc na fyddai’n cael gwyliau haf fel arall yn cael dod yma i fwynhau a gwneud ffrindiau newydd, a’r cyfan oll drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Tra’n bod ni’n ymfalchïo yn y blynyddoedd a fu, rydym hefyd yn edrych yn hyderus tua’r dyfodol, gyda nifer o ddatblygiadau cyffrous ar y gweill.
“Yn y blynyddoedd nesaf byddwn yn adnewyddu blociau llety, ac mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer canolfan bowlio deg newydd, yn ogystal ag estyniad trawiadol i’r caban bwyta.”
Agorwyd drysau Gwersyll yr Urdd Glan-llyn ym 1950 gan Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd yr Urdd.
Gan fanteisio ar y cyfle i rentu’r adeilad a fu dan berchnogaeth breifat tan hynny, roedd Syr Ifan yn gwireddu uchelgais oes wrth sefydlu gwersyll parhaol a phwrpasol yng ngogledd Cymru i groesawu pobl ifanc o bob cwr o’r wlad i gymdeithasu, a phrofi gweithgareddau awyr agored trwy gyfrwng y Gymraeg.
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.