MAE perchennog tafarn enwog y Black Boy yng Nghaernarfon yn dweud bod “cysylltiad” rhwng enw’r dafarn ag un o’r dynion du cyntaf i gyrraedd Cymru, John Ystumllyn.

Mae’r cyflwynydd Seren Jones yn darganfod mwy am John Ystumllyn yn y bennod gyntaf o Cyrraedd Cymru, sydd ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer o 1 Tachwedd.

Roedd John Ystumllyn yn arddwr o fri, ac yn 2021 cafodd rhosyn ei enwi ar ei ôl gan yr RHS.

John hefyd oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i wisg Lewis Hamilton yn Met Gala 2024.

Dywedodd John Evans, perchennog Tafarn y Black Boy, bod y dafarn “yn cael pobl weithiau’n cwyno” am yr enw gan ddweud ei fod yn hiliol ond mae’n dweud ei bod hi’n “bwysig bo ni’n dal ymlaen at hanes”.

“Os ‘dach chi’n cuddiad hwnnw, ‘dan ni’m yn dysgu ohono fo. A mae’n bwysig bo ni’n cadw’r hanes yna i ddangos i bobl sut gaeth pobl eu trin cannoedd o flynyddoedd yn ôl, a gobeithio wnaiff o’m digwydd eto,” meddai.

Mae Seren Jones yn darganfod mwy am hanes John Ystumllyn
Mae Seren Jones yn darganfod mwy am hanes John Ystumllyn (S4C)

Er gwaetha’r cwynion, mae John yn meddwl na fyddai newid yr enw yn gam poblogaidd yn yr ardal.

“Dwi’n meddwl ‘san ni’n trio newid yr enw yn Gaernarfon, dwi’m yn meddwl ‘sa pobl yn hapus iawn bo ni yn ‘neud hynna ‘chos mae o’n rhan o hanes y dre’ a’r ardal,” meddai.

Yn y rhaglen, sy’n archwilio sut mae mewnfudo wedi siapio’r Gymru gyfoes, mae Seren yn darganfod mwy am hanes John Ystumllyn gan Natalie Jones a wnaeth ddysgu amdano’n ddiweddar wrth ymchwilio i hanes cudd pobl ddu Cymru.

“Ni’n meddwl bod o ‘di cael ei eni yn 1738, posib mae’r West Indies, rhai yn dweud bod o ‘di dod o Affrica. Basically, mae o wedi cael ei herwgipio ac wedi cael ei roi fel anrheg i deulu yn yr ardal,” meddai Natalie.

“Fel mam, mae’n torri ‘nghalon i i feddwl mae ‘na sôn amdano fo’n cofio’i fam a cofio dynion gwyn yn herwgipio fo, a’i fam o’n sgrechian amdano fo. So i feddwl mai hwnna o’dd cof diwetha’ fo o’i fam o a’i gartref o, alla i ddim dychmygu beth wnaeth hynna ‘neud i’w deulu fo.”

Roedd John yn was i ŵr a gwraig lleol a syrthiodd mewn cariad gyda morwyn o’r enw Margaret Gruffydd. Priododd y ddau yn Nolgellau yn 1786 a chael saith o blant.

“Beth sy’n lyfli ma’ fo a Margaret yn dod yn ôl i’r ardal hyn ac mae’r teulu yn actually rhoi bwthyn iddo fo efo gardd eitha’ mawr achos maen nhw’n gwybod bod o’n hoffi garddio ac mae o’n byw yn fanno efo Margaret a’r plant,” ychwanegodd Natalie.

“Byswn i ‘di bod wrth fy modd i wybod [bod teulu cymysg wedi bod yn byw yng ngogledd Cymru] pan o’n i’n tyfu fyny yn yr ardal. Mae’r stori’n dechrau troi o un trawmatig i un ‘dan ni’n gobeithio sy’n llawn cariad.”

Bydd Cyrraedd Cymru yn dechrau ar S4C ar 1 Tachwedd am 20.00, gydag is-deitlau Cymraeg a Saesneg.