Merched y Wawr
YNG NGHYFARFOD mis Tachwedd croesawodd Gwyneth bawb, ac yna anfonodd ein cofion cynhesaf at Janet Hughes sydd yn Ysbyty Gwynedd a phawb arall nad oedd yn bresennol am wahanol resymau. Hefyd trafodwyd nifer o faterion y mudiad. Yna cyflwynodd ein gwr gwadd sef John Jones, Bwlch y Ffordd a chafwyd noson hynod o ddifyr yn ei gwmni yn sôn am wenynod.Cychwynnodd drwy ddangos cwch gwenyn o wellt i ni, gan ddweud mae dyma sut oedd y cwch cyntaf, ond roedd yn rhy fach ac roedd y gwenyn yn cael eu lladd er mwyn cael y mêl. Wedyn, tua 160 mlynedd yn ôl, daeth y cychod go iawn. Dangosodd hefyd y tilod lle roeddent yn magu ac un arall lle roeddent yn cynhyrchu’r mêl. Cawsom ychydig o darddiad mêl wedyn ac roedd rhai wedi synnu fod hyn i gyd wedi cychwyn tua 10,000 o flynyddoedd cyn Crist.Yna gwelsom y dillad fydd John yn ei wisgo i fynd at y gwenynod, sef oferol efo masg yn sownd wrthi a menyg rwber a lledr. Dangosodd hefyd y megin fydd o’n ei ddefnyddio i roi mwg yn y cwch sy’n gwneud i’r gwenynod fwyta llond eu boliau ac felly, fel ni wedi cael llond bol ar ddydd Nadolig, yn eu gwneud yn swrth, ac, yn ôl John, ni wnant bigo. Aeth yn ei flaen wedyn i ddangos tu mewn i’r cwch i ni, a’r fframiau tu mewn iddo. Roedd o’n ddifyr tu hwnt yn ei ffordd ddi-hafal ei hun yn disgrifio fel mae gan y cychod eu “bownsars” yn gwarchod y cwch a rhwystro gwenyn diethr efo arogl gwahanol a heb llond ei fol o fêl, rhag mynd i’r cwch, ond caiff ambell un fynd i mewn a gwneud cartref newydd yn y cwch. Soniodd hefyd fod gwahanol flas i’r mêl mewn gwahanol ardaloedd yn dibynnu ar ble mae’r gwenyn wedi cael y neithdar ac mai mwyar duon, meillion, drain gwyn a drain du mae ei wenynod o yn ei hoffi. Wyddwn i ddim fod gwenyn mor glyfar tan clywed gan John fel y maent yn cymysgu poer yn eu cegau efo’r neithdar i gael gwared o’r gwlybaniaeth gan fod canran uchel o’r neithdar yn ddwr, ac yn ysgwyd eu hadennydd i oeri’r mêl yn y cwch a thynnu’r dwr ohono ac yna’n selio’r mêl. Soniodd wedyn sut mae o’n rhoi’r mêl mewn buddai a’i hidlo. Aeth ymlaen i ddweud mae’r haf diwethaf oedd y tymor salaf erioed, gan fod rhaid cael gwres i’r blodyn gynhyrchu neithdar a gan na welwyd rhyw lawer o hwnnw yn 2015 roedd y gwenynod druan yn llwgu.Ond chwarae teg i John, roedd o’n rhoi siwgr iddynt ac mae’n siwr ei fod eisiau dipyn o hwnnw gan fod ganddo tua 100 o gychod yma ac acw ym Mhen Llyn. Soniodd wedyn am y gwahanol fathau o wenynod sef y frenhines, sy’n gallu byw am tua chwech mlynedd, y gweithwyr beinw a’r rhai gwryw ac fel mae’r gwenynod eraill yn edrych ar ôl y frenhines, sy’n gallu dodwy tua 2,000 o wyau y dydd ym mis Mai. Eunice ddiolchodd i John am ein dysgu i gyd mewn ffordd hynod o ddifyr a llawn hiwmor ac am sut i gadw gwenyn.Diolchodd i Megan a Janet Wyn am wneud y baned.Eunice hefyd enillodd y raffl, gan Menai.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.