Merched y Wawr
Gorchwyl drist iawn oedd gan Rhannion, ein llywydd, yng nghyfarfod Hydref ein cangen wrth iddi hel atgofion anwylaf un am Catherine, un o’n haelodau selocaf a fu farw mor ddisymwth.
Bu’n ysgrifennydd diwyd a thrylwyr gan wneud pob cymwynas gyda gwên a rhyw dynerwch arbennig yn perthyn iddi.
Bydd hiraeth mawr amdani yn y gangen, y gymuned ac yn bennaf oll i’w theulu.
Ar nodyn llonnach braf iawn oedd cael croesawu aelodau newydd ac yn arbennig ein gwr gwadd, Simon Bower o gwmni Morgan Evans, arwerthwyr, Sir Fôn.
Mae’n arbennigo mewn hen greiriau a bu’n olrhain hanes ffasiwn a diffyg ffasiwn mewn casglu dodrefn, llestri a lluniau ac ati mewn ffordd ddifyr dros ben.
Daeth amryw o’r aelodau â thrysorau gyda hwy, gan lenwi llond bwrdd hir i Mr Bower eu prisio.
Cawsom noson arbennig o dda i gychwyn y tymor gyda rhai o’r merched yn mynd adra ychydig yn siomedig am werth eu trysorau ac eraill wedi’u plesio’n fawr.
Tasg hawdd oedd i Rhiannon ddiolch iddo ac yn enwedig i ferched y te am eu haelioni.
Cathi fu’n lwcus ar ennill y raffl ac atgoffwyd pawb am y noson goffi yn y Ganolfan ar 27 Tachwedd.
The Church of Jesus Christ of Latter-day Saints
THIS Sunday in Y Ganolfan, High Street: 10am, main service (with bilingual communion); 11.20am, scripture study (Sunday school for all ages).
Everybody welcome.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.