Cafwyd noson arbennig yr wythnos ddiwethaf yng Nghlwb Golff y Bala, wrth i aelodau cangen Merched y Wawr Dolgellau ddathlu pen-blwydd y gangen yn 50 oed.

Roedd yr aeoldau wrth eu boddau yn cymdeithasu a mwynhau pryd o fwyd gyda’u gilydd unwaith eto, a hel atgofion am rai o ddigwyddiadau dros y blynyddoedd.

Cafwyd cwmni difyr yr is lywydd cenedlaethol Geunor Roberts, a fu’n adrodd rhai o‘i hanesion personol leol, gan iddi gael ei magu yn ardal y Bala.

Bydd y swyddogion presennol Bethan Williams (llywydd), Llinos Cadwaladr (trysorydd), a Liz Griffiths (ysgrifennydd) yn dod i ddiwedd eu cyfnod fel swyddogion a diolchwyd iddynt am eu gwaith caled yn trefnu rhaglen dros gyfnod anodd.

Mae’r aeolday yn edrych ymlaen i ail gwrdd ym mis Medi. Estynnir croeso cynnes iawn i unrhyw un sydd yn dymuno ymuno â hwy.