Mae Scott Quinnell yn credu bod gan Gymru cystal cyfle ag unrhyw wlad i ennill Cwpan Rygbi'r Byd.

Mae’r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol yn dweud y bydd gêm gyntaf Cymru yn erbyn Ffiji yn un “enfawr” i dîm Warren Gatland.

Mi fydd Scott yn ffilmio Allez Quinnell ar gyfer Facebook a YouTube S4C Chwaraeon wrth iddo sgwrsio a thrafod perfformiadau tîm Cymru gyda’r cefnogwyr allan yn Ffrainc.

Mae’n dweud mai cefnogwyr Cymru yw’r “mwyaf angerddol a mwyaf swnllyd” ac mae’n edrych ymlaen at y gemau yn eu cwmni nhw, teithio o amgylch y dinasoedd fydd Cymru yn chwarae ynddyn nhw a gweld os bydd y cefnogwyr yn llwyddo mewn ambell her fydd o’n eu gosod ar eu cyfer.

Dywedodd Scott Quinnell: "“Mae’n mynd i fod yn wych gyda lot o gefnogwyr yn mynd draw yno – cefnogwyr Cymru sydd fwyaf angerddol a swnllyd.

“Mi fydd yn hollol hyfryd - ychydig o haul, gwin coch da a bwyd da rhwng y rygbi - perffaith.”

Ac i’r rhai sydd allan yn Ffrainc, cadwch lygad am gliwiau ar blatfformau S4C Chwaraeon er mwyn dod o hyd i Scott yn y dinasoedd gwahanol.

Bydd y person sy’n ei gyrraedd gyntaf yn ennill Grogg o’r dyn ei hun.

Mi fydd pob gêm Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn fyw ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer gyda Sarra Elgan, Jason Mohammad, Lauren Jenkins a Mike Phillips yn cyflwyno'r darllediadau o'r gystadleuaeth.

Y sylwebydd Gareth Charles yw llais rygbi Cymru gan ddod â holl gyffro’r gemau i'r gwylwyr adre.

Yn ymuno â’r criw i ddadansoddi’r gemau bydd rhai o fawrion y byd rygbi, gan gynnwys Jonathan Davies, Gwyn Jones, Siwan Lillicrap, Rhys Priestland, Dyddgu Hywel, Robin McBryde, Rhys Patchell a mwy.

Yn ogystal â dilyn tîm Warren Gatland drwy gydol Cwpan y Byd, mi fydd darllediadau S4C yn dechrau gyda'r gêm agoriadol rhwng Ffrainc a Seland Newydd ar 8 Medi a gêm o rownd yr wyth olaf, y rownd gynderfynol, y trydydd safle a'r ffeinal yn fyw o'r Stade de France ym Mharis.

Mi fydd Sarra Elgan hefyd yn ymuno â Jonathan Davies a Nigel Owens i drafod tîm Cymru ar raglen Jonathan.

Am y tro cyntaf, mae Lauren Jenkins yn un o gyflwynwyr S4C ar gyfer y gystadleuaeth: "Mae am fod yn sbesial iawn i fi yn bersonol – Cwpan y Byd cyntaf i fi weithio arni ac mae’n wlad rhyfeddol yn dyw hi!

"Gwlad berffaith i gynnal Cwpan Byd – mae’n agored a hynod gystadleuol.”

Mi fydd Lauren hefyd yn cyflwyno’r fodlediad Allez Les Rouges, ble fydd amryw o sêr rygbi yn ymuno â hi i drin a thrafod gemau Cymru mewn penodau wythnosol yn y cyfnod yn arwain at yr ymgyrch, ac yn ystod Cwpan y Byd.

Bydd y fodlediad i’w gweld ar sianel YouTube S4C Chwaraeon ac ar BBC Sounds.

Ac mae arlwy S4C yng nghyfnod Cwpan Rygbi’r Byd yn mynd ymhellach na’r gystadleuaeth ei hun gyda rhaglenni a chyfresi newydd sbon yn cychwyn ym mis Medi.

Ar 12 Medi, mi fydd y gyfres Croeso i Dubai yn dilyn arwr rygbi Cymru a'r Llewod, Mike Phillips, wrth iddo ddangos i ni ei fywyd yn Dubai.

A’r diwrnod canlynol, 13 Medi, bydd y gyfres yn dilyn hynt a helynt clwb rygbi menywod Caernarfon, Rycia O ‘Ma, yn cychwyn.

Ar 28 Medi, Ifan Phillips: Y Cam Nesaf. Rhaglen ddogfen yn dilyn stori ryfeddol y cyn-chwaraewr rygbi Dan 20, Ifan Phillips, ar ôl iddo golli ei goes mewn damwain ddifrifol.

Ac hefyd draw ar blatfformau S4C Chwaraeon yn ystod y gystadleuaeth, mi fydd y cyn-chwaraewr Nathan Brew yn teithio i glybiau rygbi ar draws Cymru i gael clywed barn y cefnogwyr, yn Brew yn y Bar.