BU’R Sul, 22 Ionawr, yn lwyddiant mawr pryd y gynhaliwyd cystadlaethau Siarad Cyhoeddus Cymraeg CFfI Ceredigion yng Nghampws Theatr Felinfach.

Cafwyd diwrnod hwylus gydag aelodau o 12 o glybiau’r sir yn dangos eu doniau wrth gystadlu, gyda’r beirniaid i gyd yn canmol y safon.

Y clwb a enillodd y nifer mwyaf o bwyntiau dros y pedair adran, ac yn ennill Tarian Brynhogfaen gyda 77 o farciau oedd clwb Llanwenog, gyda Lledrod yn ail gyda 73 marc ac yn ennill Cwpan Coffa Eric Davies, Prengwyn.

Yng nghystadleuaeth y darllen o dan 14 oed ac iau cafwyd 12 o dimoedd yn cystadlu ac yn beirniadu oedd Edryd Eynon a dyma’r canlyniadau: Cadeirydd - 1af Siôn Wyn Evans, Felinfach; Darllenydd - 1af Sioned Fflur Davies, Llanwenog B; Tîm - 1af Pontsian. Bu 13 o dimau o flaen y beirniad Iwan Meirion yn y gystadleuaeth 16 oed neu iau ac ar ddiwedd y gystadleuaeth yma, cafwyd y canlyniadau canlynol: Cadeirydd – 1af Ffion Evans, Llanwenog A; Siaradwr – 1af Twm Ebbsworth, Llanwenog B; Diolchydd – 1af Ffion Williams, Lledrod; Tîm – cydradd 1af Llanwenog A a Llanwenog B.

Bu 8 tîm yn cystadlu yn y gystadleuaeth Seiat Holi 21 oed neu iau a Elin Jones AC oedd yn cloriannu. Dyma’r canlyniadau: Cadeirydd - 1af Nest Jenkins, Lledrod; Siaradwr - 1af Meleri Morgan, Llangeitho; Tîm - 1af Llanwenog A; cydradd 2il Lledrod a Llangeitho.

Yn y gystadleuaeth 26 oed neu iau – Dadl - bu 8 o dimau yn cystadlu gyda Wendy Phillips yn barnu a dyma’r canlyniadau: Cadeirydd – 1af Elen Lloyd-Jones, Pontsian A; Siaradwr – 1af Cennydd Jones, Pontsian B; Tîm – 1af Llangeitho.

Cynhaliwyd dwy gystadleuaeth ychwanegol yn ystod y dydd. Beirniadwyd y gystadleuaeth Ymgeisio am Swydd gan Iona Jones a Lisa Jones a dyma’r canlyniad: 1af Eiry Williams, Llangwyryfon. Aled Johnson oedd beirniad y gystadleuaeth Seiat Sillafu a dyma’r canlyniad: 1af Alwen Morris, Llangwyryfon.

Diolch yn fawr i Siop Inc, Aberystwyth am noddi’r gystadleuaeth. Diolch hefyd i gwmni Deli Ty Croeso am baratoi’r lluniaeth ar y dydd.

Bydd yr aelodau llwyddiannus yn mynd ymlaen yn awr i gynrychioli CFfI Ceredigion yng nghystadlaethau Siarad Cyhoeddus Cymru a fydd yn cymryd lle yn Llanelwedd ar 1 Ebrill.

Am fwy o lluniau, gweler y Cambrian News yn siopiau dydd Mercher