Capel y Fadfa

Cynhelir yr oedfa ddydd Sul nesaf am 3yp.

Bydd y gwasanaeth dan ofal ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas, pan fydd yn gweini’r cymun. Croeso cynnes i’r aelodau a ffrindiau’r achos.

I ddilyn cynhelir cyfarfod o Bwyllgor yr Eisteddfod.

Wythnos Rhyng Ffydd

Roedd Cyngor Rhyng Ffydd Cymru wedi dewis eleni i fentro allan i Geredigion i lansio’r wythnos Rhyng Ffydd ac i Hen Gapel Llwyn.

Mae hyn yn achlysur hanesyddol gan nad ydynt wedi cynnal digwyddiad fel hyn tu allan i Gaerdydd o’r blaen.

Cychwynnodd y digwyddiad am 2yp gyda Melda Grantham, Ysgrifennydd yr Undodiaid yng Nghymru yn cynnau’r gannwyll ac yn estyn croeso cynnes i bawb a oedd wedi dod ynghyd.

Bu cynrychiolwyr o dair gwahanol ffydd yn rhoi blas o’r modd maent yn addoli, sef Islam, Baha’i a Christnogion. Y Parch Wyn Thomas oedd yn arwain y rhan Gristnogol, ef hefyd a gyflwynodd y weddi.

Y Parch Alun Wyn Dafis oedd yn cyfeilio ar gyfer yr emynau. Rhoddwyd y fendith ar y diwedd gan y Parch Cen Llwyd.

Hyfryd oedd gweld yr Hen Gapel yn llawn â phobl wedi teithio o sawl ardal i ymuno yn yr oedfa wahanol hon.

I’r festri aeth pawb wedyn i fwynhau’rcawl a oedd wedi cael ei baratoi gan wragedd caredig yr ardal, gyda cyfle i bawb drafod, holi ac i ddod i adnabod a deall ei gilydd yn well.

Eglwys Dewi Sant

Mae aelodau’r eglwys yn trefnu Ffair Nadolig yn y Neuadd Goffa, ddydd Sadwrn, 28 Tachwedd rhwng 2 a 4yp.

Bydd yno stondinau o bob math a chroeso cynnes i bawb droi i fewn.