Capel y Fadfa
DDYDD Sul nesaf cynhelir oedfa arbennig am 10.30yb yng nghwmni ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas ac yn ôl yr arfer estynnir croeso cynnes i aelodau a ffrindiau’r achos i’r oedfa foreol hyn.I ddilyn yn y prynhawn cynhelir Cymanfa Bwnc ar gyfer capeli Bwlch y Fadfa, Llwynrhydowen, Pantydefaid a’r Graig sy’n cael ei chynnal yng Ng-hapel Pantydefaid am 1.30yp. Gobeithir y bydd cynulleidfa luosog wedi dod ynghyd o’r pedwar capel ar gyfer yr achlysur blynyddol. Ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas fydd yng ngofal gweithgareddau’r prynhawn.
Neuadd Goffa
CYNHELIR Cyfarfod Blynyddol y Neuadd Goffa ar nos Fawrth, 26 Ebrill am 7.30yh yn y neuadd, pryd y disgwylir i’r holl aelodau fod yn bresennol.
Caws, gwin a chlonc
NOS Wener, 22 Ebrill cynhelir noson o Gaws a Gwin a Chlonc yn Nhafarn Glanyrafon am 7.30yh, gyda phanel o siaradwyr profiadol, sef Emyr Llewelyn, Karen Owen a Tudur Dylan Jones yn trin a thrafod ambell i gwestiwn a ddaw i’w rhan. Yn cadeirio’r panel fydd Dylan Iorwerth.Tâl mynediad yn £5 a bydd yr elw yn mynd tuag at ddwy elusen, sef BAWSO ac Ymchwil Parkinsons. Medrir cael tocynnau oddi wrth Cen Llwyd neu Wyn Thomas. Dewch yn llu i gefnogi ac i fwynhau. Cwrdd y Gymdeithas AR BRYNHAWN Sul yn ddiweddar cynhaliwyd Cwrdd y Gwanwyn, Cymdeithas Undodaidd ardal y Smotyn Du yng Nghapel Pantydefaid gyda’r gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn cymryd at y rhannau arweiniol. Braf oedd gweld cymaint wedi troi fewn i gyd ddathlu o wahanol gapeli’r ardal.I ddilyn cafwyd Pwyllgor Gwaith y Gymdeithas dan arweinyddiaeth y llywydd, Nans Davies. Yn ystod y cyfarfod cafwyd adroddiad ariannol y Gymdeithas am y flwyddyn gan Anna Phillips, sydd erbyn hyn wedi ymddeol fel trysorydd; cafodd anrheg fach gan y llywydd fel arwydd o ddiolch am ei gwaith diflino yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn ei dilyn fel trysorydd mae Huw Thomas a dymunir yn dda iddo yn ei swydd wirfoddol newydd. I’r festri aeth pawb wedyn i fwynhau’r te ysblennydd, a oedd wedi cael ei baratoi gan wragedd caredig y capel.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.