Yn dilyn llwyddiant Talwrn y Beirdd Ifanc a gynhaliwyd am y tro cyntaf rhwng ysgolion Ceredigion yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2022, mae’r digwyddiad yn ôl unwaith eto eleni i ddathlu doniau creadigol disgyblion y sir.

Yn ystod mis Mehefin, bu beirdd preswyl yn ymweld â saith ysgol uwchradd y sir i annog ac ysbrydoli criw o ddisgyblion i gystadlu mewn Talwrn y Beirdd Ifanc.

Penllanw hynny oedd cystadleuaeth Talwrn y Beirdd Ifanc a gynhaliwyd yng Nghastell Aberteifi, nos Wener 30 Mehefin 2023 ar drothwy Gŵyl Fawr Aberteifi, a hynny o dan ofal y Meuryn, sef y Prifardd Ceri Wyn Jones.

Trefnwyd y digwyddiad gan Anwen Eleri Bowen, Swyddog Cefnogi’r Gymraeg mewn Addysg Cyngor Sir Ceredigion, a ddywedodd: “Ymfalchïwn fod ein saith ysgol uwchradd mor awyddus i fod yn rhan o’r Talwrn a diolch yn fawr i’r beirdd am fodloni i fentora a chydweithio gyda’r criw.

"Mae’r Talwrn yn cynnig profiadau gwerthfawr a chyfoethog iawn i’n disgyblion. Mae’n gyfle euraidd i griw bach o ddisgyblion gael cwmni bardd am ddiwrnod i weithio a chreu gwaith creadigol ar gyfer cystadleuaeth. Mae’n gyfle i ysgrifennu’n greadigol yn unigol ac ar y cyd, trafod a rhannu barn am waith ei gilydd, mireinio’r gwaith ar y cyd, a’r penllanw oedd gweld y gwaith wedi ei ddatblygu i weithiau gorffenedig a glywsom nos Wener.

“Mae profiad o’r fath yn datblygu hyder y disgyblion i rannu eu gwaith yn gyhoeddus a bod yn barod am feirniadaeth a gobeithio yn eu hannog i gynnig eu gwaith i gystadlaethau llenyddol yn ein heisteddfodau lleol. Diolch yn fawr i’r ysgolion a’r beirdd am eu cydweithrediad.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Llongyfarchiadau mawr i’r holl ddisgyblion a gymerodd ran yn Talwrn y Beirdd Ifanc. Dyma gyfle gwych iddynt ddangos eu doniau a hogi eu sgiliau creadigol.

"Mae’n wych gweld gwaddol Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ar waith yma wrth i’r gystadleuaeth hon barhau, gan gynnig cyfleoedd amhrisiadwy i ddarpar feirdd talentog iawn. Roedd hi’n bleser cefnogi Gŵyl Fawr Aberteifi a gwrando ar y darnau llenyddol gwych.”

Bu’r beirdd preswyl yn ymweld â’r ysgolion canlynol: Gwennan Evans – Ysgol Bro Pedr;  Endaf Griffiths – Ysgol Bro Teifi; Aneirin Karadog – Ysgol Gyfun Aberaeron; Gwenallt Llwyd Ifan – Ysgol henry Richard; Arwel Rocet Jones – Ysgol Penglais; Megan Lewis – Ysgol Penweddig; Hywel Griffiths – Ysgol Uwchradd Aberteifi.

Llongyfarchiadau i Ysgol Gyfun Aberaeron am ddod yn fuddugol yn y gystadleuaeth.