YN Hydref 2017, fe wnaeth criw Tractors Bro Stiniog gynnal eu taith tractors cyntaf, drwy gychwyn a gorffen ym Mlaenau Ffestiniog.
Cynhaliwyd y daith er cof am John (Bont) Roberts, gyda’r elw’n mynd at Ymchwil Canser Cymru.
Cafodd ‘brochure’ ei greu gydag enwau busnesau lleol, diwydiannau cludo ag ati.
Yn ogystal cafodd ocsiwn ei chynnal gyda rhoddion gan nifer o fusnesau ac unigolion lleol.
Hefyd rhoddwyd cyfraniadau gan lawer un arall oedd eisiau cyfrannu i’r achos.
Yn ogystal, codwyd arian ar y diwrnod wrth i rai dalu mynediad i’r daith ei hun.
Y swm a godwyd oedd £3,830.
Cyflwynwyd y siec i Lee Campell o Ymchwil Canser Cymru (dde).
Dywedodd un o trefnwyr y daith: "Fel criw, ddiolchwn i bawb a gyfrannodd mewn gwahanol ffyrdd ac a roddodd eu hamser yn paratoi’r daith.
"Diolch am yr holl gefnogaeth ar y diwrnod, i bawb gymerodd ran ac i’r rhai oedd wedi ein cefnogi.
"Diolch yn fawr iawn i deulu John am eu cymorth a’u caredigrwydd i wneud y diwrnod yn bosib ac yn llwyddiant.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.