Capel Bwlchgwynt

CYNHELIR Gwasanaeth Nadolig y Plant ddydd Sul, 20 Rhagfyr, am 4yp.Estynnir croeso cynnes i bawb a bydd paned yn y festri i ddilyn.

Merched y Wawr

AR NOS Fercher, 2 Rhagfyr, es-tynnwyd croeso cynnes i’r aelodau gan ein llywydd, Ann Morgan. Diolchwyd i’r rhai fu’n cystadlu yn y Cwis Hwyl a gynhaliwyd yn Nhyglyn Aeron ac i Marian Davies a Dorothy Morgan am gystadlu yn y Ffair Aeaf. Ar ôl trafod rhai materion, aeth Ann ymlaen i gyflwyno a chroesawu gwesteion y noson. Dwy nyrs oedd Olive ac Yvonne wrth eu galwedigaeth, ond wedi dechrau busnes Pethau Olyv ers tair blynedd bellach. Buont yn arddangos bagiau, gemwaith a sgarffiau, gyda rhai o’r aelodau yn modelu a chafwyd cyfle i wneud ychydig o siopa yn ogystal. Paratowyd paned o de a mins peis gan Aerona Rees ac aelodau’r Pentre. Enillwyd y raffl gan Marged Lewis a gwobr raffl Pethau Olyv gan Sian Evans. Dyma ni allan eto ar nos Sadwrn, 5 Rhagfyr, i’r Clwb Bowlio i ginio Nadolig y gangen.Croesawyd pawb gan Ann Mor-gan a chyn dechrau cydymdeiml-wyd gyda theulu’r diweddar Mair Lloyd Davies yn eu profedigaeth. Bu Mair yn aelod ffyddlon a gweithgar trwy’r blynyddoedd a gwelir ei heisiau yn fawr.Yn dilyn y cinio blasus, cyflwyn-wyd ein gwestai, sef Ken Lewis o Lanwnnen. Bu’n gwasanaethu am flynyd-doedd gyda’r heddlu yn ardaloedd Llanelli, Glan-y-fferi, Rhydaman, Caerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan. Cafwyd noson ddiddorol yn gwrando arno yn sôn am ei holl brofiadau a’r atgofion oedd ganddo. Diolchwyd i Ann a’r tîm am drefnu’r cyfan, ac i Glenys a’i staff am y cinio blasus gan Catherine Hughes. Diolchodd yn ogystal i Ken Lewis am ymuno â ni, gan ei longyfarch ar gyh oeddi ei lyfr yn croniclo’r holl hanes sef ‘Insbector Ken’.Enillwyd gwobrau’r raffl gan Marian Jones, Ann Pugh a Diana Jones.Dymunwyd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

English Methodist Church

THE SERVICE on Sunday, 20 December, will be led by Dionne Sherwood, beginning at 2.30pm in the Hall, Pontrhydfendigaid. There will be a Christmas Eve service at 7pm in the Hall, Pontrhydfendigaid. Come and join the group to celebrate Christmas.