Cymdeithas Cyn-ddisgyblion Ysgol Uwchradd Tregaron
AR NOS Wener, 15 Ebrill, cynhaliwyd aduniad blynyddol Cymdeithas Cyn-ddisgyblion Ysgol Uwchradd Tregaron yn neuadd yr ysgol.Yn y cyfarfod etholwyd yr aelodau canlynol i’r pwyllgor: cadeirydd, Margaret Jenkins, Tregaron; is-gadeirydd, John Meredith, Blaenpennal; ysgrifennydd, Cyril Evans, Tregaron; trysoryddes, Annwen Davies, Swyddffynnon.Yn diddanu’r gymdeithas oedd Dewi Sion Evans o Bonrhydgygroes, ond sydd bellach wedi ymgartrefi gyda’i deulu ifanc yn Nhregaron.
Mae Dewi’n meddu ar lais tenor cyfoethog, a chafwyd datganiadau safonol a swynol iawn ganddo, gyda Neli Jones yn cyfeilio.I orffen y noson mwynheuodd pawb pryd y fwyd blasus gyda chyfle i gymdeithasu gyda hen gyfeillion.Yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni eleni, fe fydd Keith Bush, cynghorydd i’r frenhines, yn annerch y gymdeithas ar brynhawn Gwener, 5 Awst, ym Mhabell y Cymdeithasau.Gobeithio fydd cynifer o’r aelodau a charedigion i’r achos yn medru mynychu.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.