MAE cynlluniau ar y gweill i ddathlu etifeddiaeth y cerddorion roc a phop o Aberteifi, Richard a Wyn Jones.

Sefydlodd y brodyr y grŵp Ail Symudiad yn Aberteifi yn 1978, gan ryddhau nifer o recordiau dros 40 mlynedd tra’n magu cynulleidfa ffyddlon.

Fe wnaethon nhw hefyd sefydlu label recordio annibynnol a stiwdio recordio yn y dref.

Ymhlith eu caneuon mwyaf poblogaidd roedd Garej Paradwys, Twristiaid yn y Dre, Llwyngwair a Geirau.

Bu’r brodyr yn helpu sawl cenhedlaeth o fandiau Cymraeg i ddod o hyd i’w traed gyda’u label recordio, Fflach, a’i gangen, Rasp, a roddodd arweiniad i artistiaid newydd fel Y Ffug, Bromas, MC Mabon a Swci Boscawen.

I ddathlu eu hymdrechion, ganwyd cwmni recordio newydd yn Aberteifi ar nos Fercher gynta 2024, cwmni Fflach Cymunedol.

Y noson honno daeth criw o ysgogwyr diwylliannol ynghyd i drafod potensial trosglwyddo gwaddol rhyfeddol y diweddar frodyr i ofal cwmni cydweithredol a chymunedol.

Trwy weledigaeth y ddau daeth Aberteifi’n ganolfan fyrlymus i gerddorion Cymreig ifanc.

Un sydd wedi datblygu cryn brofiad yn helpu cymunedau’r ardal i greu mentrau cymunedol yw Cris Tomos.

Daeth y criw ysgogwyr ynghyd wedi iddo awgrymu i deulu Richard a Wyn mai dyma ffordd bosib ymlaen.

“Fel gymint a fagwyd ym Mro Preseli we’n i’n gyfarwydd iawn â Stiwdio Fflach a gwaith y bois,” medd Cris.

“O ran nod ac ysbryd, menter gymdeithasol we Recordie Fflach o’r cychwyn cynta.

“Heb os, cyfoethogi cymdeithas ac nid nhw eu hunain oedd yn eu gyrru. Eu tâl oedd prifiant a llwyddiant yr holl gerddorion ifenc a fwynhaodd braint eu cefnogaeth.

“I fi, ma’ troi Fflach! yn fenter gymdeithasol o ran perchnogaeth yn ffordd amlwg o gynnal y weledigaeth.”

A felly hefyd oedd barn unfryd y criw ddaeth ynghyd.

Y cam nesa fydd gwahodd pawb a phob un i brynu cyfranddaliadau yn y Fflach Cymunedol newydd gan ychwanegu at y llu o fentrau bellach yn Aberteifi a’r cyffiniau sydd yn gweithredu er budd bobol leol.

Gan fod un o’r mentrau hynny (cwmni 4CG) yn ceisio prynu capel Y Tabernacl gynt, ar ganol stryd fawr Aberteifi, mae Fflach Cymunedol yn bwriadu cydweithio â nhw i sicrhau llwyddiant y nod o’i droi’n ganolfan ddathlu cyfoeth barddonol a cherddorol y fro.

Ychwanegodd Cris: “Cymdeithas y Tabernacl gynt roddodd y cyfle cynta i Richard a Wyn.

“Yn festri’r capel y sefydlo nhw’r stiwdio gynta oll, dros 30 mlyne nôl. Wrth sefydlu Fflach Cymunedol y gobaith yw agor stiwdio newy’ mas-law yn y festri a gweld cerddorion ifenc yr ardal yn cwrdd a chreu ’da’i gilydd yno unwaith eto.”