Madam,

Barchus ddarllenwyr, hoffwn roi cynnig gerbron sef bod holl aelodau Cyngor Gwynedd yn canu pennill cyntaf yr emyn Calon Lân ar ddechrau’r cyfarfod o’r cyngor llawn heddiw.

Dychmygwch y sefyllfa, 75 cynghorydd yn morio canu - ‘Nid wy’n gofyn bywyd moethus....’

Tybed sawl aelod fyddai’n gallu canu gyda chalon lân?

Byddai eu gonestrwydd yn dod i’r amlwg wrth iddynt fynd ati i ystyried y cynnig i gynyddu tâl cadeirydd y cyngor o £21,800 i £24,300. Eisoes cefnogwyd y syniad gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a’r gobaith yw cael sêl bendith y cyngor llawn.

Bydd pob aelod hefyd yn gwybod fod £200 ychwanegol yn cael ei dywallt i’w coffrau personol yn sgil penderfyniad panel cenedlaethol. Fodd bynnag, gallant wneud cais ysgrifenedig i wrthod y cynnydd. Gobeithio’n wir y bydd pob aelod yn manteisio ar y cyfle yma.

Rhaid cofio hefyd am gyflogau cadeiryddion pwyllgorau (£22,300), aelodau’r Cabinet (£29,300), dirprwy arweinydd y cyngor (£33,800) ac arweinydd y cyngor (£48,800). Bywyd moethus yn wir, yn arbennig o gofio gweithwyr mewn amrywiol feysydd drwy’r sir, gan gynnwys rhai o weithlu’r cyngor, sy’n gorfod bodloni ar lawer llai.

Y gwyn a geir yn gyson yw fod y cyngor yn gorfod ymdrin â chwtogi diddiwedd ac yn sgil hyn aethpwyd ati i fygwth dyfodol clybiau ieuenctid y sir. Gwyddom yn dda hefyd pa mor ansicr ydy dyfodol ein llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden. Ac ar yr un gwynt rhoddir ystyriaeth i chwyddo waled Cadeirydd y Cyngor – mawr gywilydd iddynt.

Ond i fod yn deg, arhoswch am funud a gofyn a yw’r cynghorwyr yn haeddu’r fath daliadau – go brin.

Yr wythnos ddiwethaf cefais gyfle i deithio o gwmpas Ceredigion, Powys a Phenfro gan edmygu taclusrwydd ffyrdd gwledig y siroedd – gwrychoedd wedi eu torri ac ochrau’r ffyrdd yn glir o fwd ac ysbwriel. Croesi’r ffin i Wynedd wrth ddychwelyd a sylwi’n syth ar y drain a’r mieri hyd y cloddiau a’r ysbwriel yn hagru’r gwelltglas. Oni fyddai’n well i’r cynghorwyr ymdrin â materion o’r fath yn hytrach na meddwl am hawlio mwy o arian.

Rhaid rhoi sylw hefyd i aelodaeth y cyngor. A oes angen 75 aelod, a pham fod rhaid cael deg aelod ar y Cabinet bondigrybwyll?

Ond yn hytrach na chwyno rhaid ymateb o ddifri, ac er fod rhaid dioddef cryn amser cyn yr etholiad nesaf gallaf gadarnhau y byddaf bryd hynny, (os byw ac iach), yn ymgeisio am sedd, yn gwbl annibynnol ac yn gweithio hyd eithaf fy ngallu er budd y gymuned a dosbarthu’r cyfan o’r taliadau i hybu mudiadau a chymdeithasau lleol. Pe byddwn yn llwyddiannus byddai pethau fel clybiau ieuenctid, ffermwyr ifanc, Ysgolion Sul a theithiau addysgol ysgolion lleol yn elwa.

Yn gywir,

Ioan Hughes, Pencaenewydd, Pwllheli.

Have your say on the local issues affecting you - email [email protected] or join in the conversation on our Facebook page