Yr wythnos hon cyhoeddir llyfr i blant gan y delynores adnabyddus Delyth Jenkins. Mae Mynd i Weld Nain (Y Lolfa) yn uno stori gynnes Delyth Jenkins gyda gwaith celf hyfryd yr artist o’r Rhondda Lily Mŷrennyn.

Mae’r llyfr wedi’i selio ar atgofion Delyth o’i phlentyndod.

Meddai: “Mae Mynd i weld Nain yn hunangofiannol. Y rheswm gwreiddiol i mi ysgrifennu’r llyfr oedd er mwyn i fy merched a fy wyrion gael rhyw syniad o sut berson oedd Nain.

"Ond mae’r llyfr yn fwy na stori fy nheulu. Mae’n sôn am gariad rhwng y cenedlaethau a allai fod yn unrhyw deulu, a sut y gallwch chi ddangos cariad at blant heb roi llwyth o anrhegion drud iddynt.”

Mewn ffordd gynnil hefyd, mae’r stori yn cyffwrdd â’r syniad o farwolaeth. Atgyfnerthir y syniad ei bod hi’n bwysig parhau i siarad am aelodau’r teulu sydd wedi marw er mwyn cadw’r atgofion amdanyn nhw’n fyw.

Mae’r stori yn dilyn dwy chwaer a’u mam wrth iddynt ymweld â Nain yn ei byngalo yng nghanol y wlad ble maen nhw’n cael Nadolig perffaith drwy fwyta llond eu boliau ac yn adeiladu dyn eira.

Mae hud y Nadolig a’r cariad rhwng Nain a’I hwyresau yn gynhesrwydd drwy’r llyfr.

Dywedodd Delyth Jenkins ei bod hi’n “hynod o falch bod yr artist Lily Mŷrennyn wedi ail-greu’r delweddau oedd yn fy mhen mewn modd mor annwyl a swynol.”

Mae Mynd i weld Nain gan Delyth Jenkins ar gael nawr (£5.99, Y Lolfa).