Clwb y Pensiynwyr

CROESAWYD yr aelodau i gyfarfod o Glwb y Pensiynwyr yn festri Ebeneser bnawn Mawrth, 5 Ebrill gan y llywydd, Eluned Parry.Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Betty, Menna, Sally, Nan, Katie, Kathleen, Margaret ac Eluned, Minallt. Ers y cyfarfod diwethaf collwyd un o aelodau ffyddlon y Clwb, sef Brenda Jones Roberts. Bu’n aelod ers blynyddoedd gan wasanaethu fel llywydd ar un adeg.Ymhen yr wythnos wedyn, yn sydyn iawn, bu farw ei modryb, Nellie a ymgartrefai gyda hi. An-fonwyd cofion at Gwyneth, Y Ffôr a’r teulu oll yn eu profedigaeth deublyg. Hyfryd oedd cael cwmni Iola Jones yn y cyfarfod. Hi yw ysgrifennydd y clwb a chafwyd pnawn difyr a chartrefol yn ei chwmni yn sgwrsio a thrafod materion y clwb tros baned a baratowyd gan Gwenda Owen ac Euronwy Jones. Rhoddwyd gwobr yn raffl gan Megan Roberts a’r enil-lydd oedd Lottie Thomas.Bydd y cyfarfod nesaf yn festri Ebeneser bnawn Mawrth, 3 Mai pryd y disgwylir Thelma o Age Concern Cymru yn wraig wadd.

Oedfa

PREGETHIR yng Nghapel Ebeneser y Sul yma, 17 Ebrill am 10yb gan y Parch Dewi Morris, Porthmadog.