Y penwythnos yma bydd chwe cystadleuydd ifanc yn camu ar lwyfan Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth gyda’r nod o gipio Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel, cystadleuaeth sydd dros y blynyddoedd wedi rhoi hwb i sawl gyfra disglair.
O Mirain Haf i Rhys Taylor, Rhian Lois i Rhydian Jenkins, mae Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel, wedi bod yn lwyfan pwysig i rai o artistiaid mwyaf llwyddiannus Cymru.
Nos Sul bydd y gystadleuaeth yn dychwelyd am y tro cyntaf ers 2019 wrth i chwe thalent ifanc gystadlu am ysgoloriaeth o £4,000.
Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: “Mae’r Urdd yn hynod o gyffrous i groesawu nôl Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel a chael cynnig y profiad gwerthfawr yma i chwe cystadleuydd ifanc ar ddechrau eu gyfra.
"Mae’r cystadleuwyr i gyd wedi gweithio’n galed wrth baratoi, ac eisoes wedi elwa o’r profiad drwy gymryd rhan mewn gweithdai meistr gydag arbenigwyr profiadol o fewn eu maes.
“Hoffwn ddiolch i’r holl bobl sydd wedi cefnogi’r Urdd i gynnig y profiadau gorau posib i’r chwe cystadleuydd dros yr wythnosau diwethaf.
"Mae Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel yn gyfle anhygoel i bob un sy’n cystadlu, ac yn blatfform arbennig i’r talentau ifanc hyn.
“Ar ran yr Urdd dymunaf y gorau i bawb sy’n cystadlu – yn bwysicach na dim, mwyhewch y profiad!”
Dewiswyd y cystadleuwyr gan banel o feirniaid yn seiliedig ar eu llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.
"Y chwech fydd yn mynd ben ben am yr ysgoloriaeth yw; Fflur Davies (Cylch Arfon), Gwenno Morgan (Aelwyd Llundain), Ioan Williams (Adran Bro Taf), Mali Elwy (Adran Bro Aled), Owain Rowlands (Aelod Unigol Blaenau Tywi) a Rhydian Tiddy (Cylch Blaenau Tywi).
Fel rhan o’r paratoadau ar gyfer y gystadleuaeth, trefnodd yr Urdd ddosbarthiadau meistr unigol a phenodi mentor i’r chwe cystadleuydd.
Seren y West End Steffan Harri fu’n cynnal dosbarth meistr Fflur Davies, y pianydd talentog Iwan Llywelyn Jones fu’n helpu Gwenno Morgan, a’r dawnsiwr Osian Meilir fu’n cydweithio efo Ioan Williams.
Yr actor Ffion Dafis fu’n rhannu ei phrofiad â Mali Elwy, meistr y trombôn Dafydd Thomas fu’n helpu’r cerddor Rhydian Tiddy, a rhannodd Rhian Lois cyn-enillydd y gystadleuaeth yn 2008, ei chyngor hefo Owain Rowlands.
Yn ogystal, mae’r chwech wedi derbyn sesiynau ymarfer gyda Stifyn Parri a’r Gyfarwyddwraig Angharad Lee i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth.
Wedi’r holl baratoi ac edrych ymlaen, mae’r noson fawr bron a chyrraedd.
Y panel beirniadu fydd Sioned Terry, Gwennan Gibbard, Barri Gwilliam, Bethan Williams–Jones a Huw Garmon.
Prin iawn yw’r tocynnau sydd ar ôl ar gyfer y digwyddiad; i fwynhau noson yn llawn adloniant a chyffro ewch i wefan yr Urdd neu Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth i brynu eich tocyn.
Bydd rhaglen uchafbwyntiau Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel yn cael ei ddarlledu Nos Sul, 12 Fawrth am 8yh ar S4C.
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.