Arhosodd niferoedd y defaid, gwartheg a moch yng Nghymru’n gymharol sefydlog yn ystod 2021 er gwaethaf ansicrwydd dwbl Covid a Brexit, yn ôl y data a gasglwyd ar gyfer Arolwg Amaethyddiaeth a Garddwriaeth Cymru 2021.
Mae niferoedd y defaid ac ?yn yng Nghymru wedi aros yn gyson ers nifer o flynyddoedd, a hynny ar tua 9.5 miliwn pen. Dilynodd 2021 yr un patrwm gyda’r niferoedd yn cyrraedd 9.46 miliwn yn ôl data Arolwg Mehefin – mae hyn o fewn 1% o lefelau 2019 a chynnydd o 5.3% ar 2020. Roedd cyfanswm o 4.54 miliwn o ?yn (dan 1 oed), sef y nifer uchaf o ?yn a aned mewn blwyddyn ers 2017.
Mae hynny’n groes i nifer yr ?yn a aned yn y DU gyfan eleni, fel a nodwyd mewn adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Hybu Cig Cymru (HCC). Meddai awdur yr adroddiad, Glesni Phillips: “Mae’r adroddiad yn cyfeirio at ddata gan Defra sy’n dangos gostyngiad o 1.6% yn nifer yr ?yn a aned yn y DU yn 2021 o’i gymharu â ffigurau 2020, a gostyngiad o 2.7% o’i gymharu â 2019.
“Arweiniodd hyn at gyflenwad tynn o ?yn yn y farchnad, sydd, ar y cyd â ffactorau eraill, wedi golygu prisiau cyfartalog cryf am ?yn. Ar hyn o bryd, mae’r pris cyfartalog tua 25% yn uwch na lefelau’r llynedd.”
Mae prisiau gwartheg hefyd yn hanesyddol uchel gyda’r niferoedd yn parhau’n weddol statig. Roedd cyfanswm o 1.13 miliwn o wartheg a lloi yng Nghymru – cynnydd bach o lai na 1% o’i gymharu â lefelau y llynedd a 2019. Yn gyffredinol, arhosodd y fuches fridio yng Nghymru (cig eidion a llaeth wedi’u cyfuno) yn gymharol sefydlog o’i gymharu â lefelau y llynedd (+0.2%) ar 415,000 pen. Ond ar wahán, cynyddodd maint y fuches laeth o 1.3% tra bod y fuches cig eidion wedi gostwng 1.5% dros y 12 mis diwethaf.
Ar hyn o bryd, mae’r fuches cig eidion ar ei hisaf ers 2004 gyda’r fuches fridio llaeth yng Nghymru’n cyfrif am gyfran gynyddol uwch o’r fuches fridio gyfan dros y blynyddoedd diwethaf. Ar hyn o bryd, mae’n cyfrif am bron 62% o gyfanswm y fuches fridio Gymreig.
O’i gymharu â gweddill y DU, mae Cymru’n cyfrif am ran fach iawn o’r genfaint foch gyfan. Mae’r genfaint wedi crebachu flwyddyn ar ôl blwyddyn yn sgil gostyngiad o 5% yn nifer y moch pesgi. Ond, arhosodd nifer y moch yng Nghymru ar 27,200 pen, sydd 4.4% yn llai nag yn 2020 ond 11% yn fwy nag yn 2019.
Ychwanegodd Glesni Phillips: “Y gobaith yw y bydd y galw gan gwsmeriaid am gig coch yn parhau yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig, gyda chwsmeriaid eisoes wedi dangos cefnogaeth gref tuag at y cynnyrch.
“Gwariodd pobl 4.4% yn fwy ar gig eidion ar draws Prydain yn ystod y cyfnod 12 wythnos hyd at 31 Hydref 2021 nag a wnaethant yn yr un cyfnod cyn-Covid yn 2019. Roedd y gwariant ar gig oen ar y llaw arall, 9.5% y fwy nag yn 2019 ar gyfer y cyfnod 12-wythnos hyd at 3 Hydref, gyda thoriadau rhostio’n boblogaidd iawn.
“Mae’r gwariant ychwanegol yma gan gwsmeriaid yn y sector manwerthu o ganlyniad i bandemig Covid-19, lleihad mewn mewnforion o Seland Newydd ac Awstralia yn enwedig, a phroblemau yn sgil Brexit mewn safleoedd prosesu, wedi cyfrannu at brisiau uwch ar gât y fferm yn ystod 2021.”






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.