Merched y Wawr
I DDATHLU’R Nadolig mwynhawyd cinio yng Ngwesty Tremfan, Llanbedrog, yng nghwmni’r llywydd cenedlaethol, Meryl Davies.Croesawyd pawb gan ein llywydd. Estynnodd Ruth gymdymdeimlad y gangen i Iris, yn ei phrofedigaeth o golli ei chwaer, Gwyneth Metharam. Dymunwyd yn dda i Norah, sydd bellach wedi gadael yr ysbyty ac i Tomos, mab Margot, ar ôl ei lawdriniaeth. Llongyfarchodd Gwenda a John ar ddod yn hen naid a hen daid a chyfeiriodd at eraill fethodd a bod yn bresennol. Llongyfarchodd y gangen hefyd ar ddod yn gydradd ail yn y Cwis Hwyl Cenedlaethol.Ar ôl gwledda ar bryd Nadolig blasus iawn, cafwyd hanes ddifyr dros ben gan Meryl Davies am y merched a ddylanwadodd ar eu bywyd o’i phlentyndod hyd heddiw, gan gyfeirio’n bennaf at ei theulu oedd ym myd nyrsio ac â’i denodd hithau i’r un cyfeiriad. Dyfynnodd o ddyddlyfr perthynas oedd yn nyrs fro a bydwraig a chafwyd cip diddorol ar rai o ymarferion a meddyginiaethau’r dydd, â’i phwyslais ar fwyd maethlon a glanweithdra. Roedd ganddi lun hyfryd o’i nain yn 100 oed, mewn sgert laes, siol a chap les gwyn. Roedd y gymeradwyaeth ar derfyn y sgwrs yn mynegi gwerthfawrogiad pawb a diolchodd y llywydd yn gynnes iawn iddi .Beti a Marnel roddodd gwobrau’r raffl a enill-wyd gan Einir ac Yvonne. Diolchwyd i Gwenda am drefnu’r cyfan ac i Margot am yr ochr ariannol i bethau.
Capel Graig
BORE Nadolig: 9yb, gwasanaeth undebol.Dydd Sul: 10yb, Cyfarfod Gweddi.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.