Cylch Cinio
ROEDD ein cinio Nadolig eleni yng ngwesty’r Richmond ar nos Wener, 11 Rhagfyr, yng nghwmni hwyliog y difyrrwr, y comediwr a’r actor Glan Davies.Er ei fod wedi ymgartrefu yn ardal Aber-ystwyth ers blynyddoedd, bachan o bentref glofaol Brynaman yw Glan a chafodd gyfle i feithrin ei ddoniau yn ifanc iawn yn Aelwyd yr Urdd Brynaman, canolfan sydd wedi cyfoethogi llwyfannau Cymru dros lawer blwyddyn. Cawsom noson wych o hiwmor Brynaman ar ei orau a sylweddoli i Glan chwarae rhan arloesol yn natblygiad adloniant ysgafn yn y Gymraeg. O ddyddiau ’Hop y Deri Dando’, i gydweithio’n agos gyda Ryan a Ronnie, ac arwain Nosweithiau Llawen i actio mewn dramau teledu diweddar fel Y Gwyll. Mae Glan wedi bod yn rhan o’n hwyl, ein chwerthin a’n hadloniant dros ddegawdau. Heddiw mae perygl i ni gymryd hyn i gyd yn ganiataol, ond byd yw hwn sydd wedi ei greu gan ynni a brwdfrydedd a dyfalbarhad lond llaw o bobol. Yn ei gyfnod yn Aberystwyth mae Glan wedi gweithio yn ddiflino dros nifer o elusennau ac achosion da yn yr ardal.Roedd hi’n noson i’w chofio i’n hysgrifennydd Huw Williams a fu’n rhoi’r diolchiadau i Glan ar ran yr aelodau ac ef hefyd oedd enillydd raffl y mis.Darllennodd John Lewis, y cadeirydd, lythyr oddi wrth Banc Bro Llanfihangel Genau’r Glyn yn diolch i aelodau’r Cylch am gefnogaeth ariannol tuag at noson ‘Cofio Dai England’. Trefnwyd y noson er budd Ambiwlans Awyr Cymru.Braf oedd cael estyn croeso i Gwynant Phillips yn aelod newydd i’r Cylch Cinio. Mae Gwynant wedi ymddeol yn ddiweddar wedi blynyddoedd o wasanaeth ar staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru.Cafwyd trafodaeth ar natur y raffl misol a diolchwyd i Hefin Jones am ei waith diflino yn trefnu gwobrau bob mis. Cytunwyd hefyd y bydd aelodau’r Cylch Cinio yn cynorthwyo gyda’r stiwardio yn y Parêd Gwyl Ddewi yn Aberystwyth yn 2016.Un o sylfaenwyr y Cylch Cinio, Alun Jones sydd bellach wedi ymgatrefu yn Chwiliog yw ein siaradwr yng nghyfarfod mis Ionawr yng Ngwesty’r Richmond ar nos Wener, 8 Ionawr.Dyma gyfle gwych i aelodau newydd wneud adduned blwyddyn newydd ac ymrwymo i ddod yn aelod o’r Cylch Cinio bywiog hwn yn Aberystwyth.




1.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.