Mae myfyrwraig wnaeth syrthio mewn cariad gyda Chymru yn ystod ei chwrs gradd yng ngwlad Pwyl, wedi symud i Gymru i fod gyda’i g?r, ac mae’n gwneud enw iddi hi ei hun fel arlunydd gweledol.

Aeth Karolina Jones, sy’n wreiddiol o Pila yng ngogledd orllewin gwlad Pwyl, i Brifysgol Adam Mickiewicz yn Pozna? er mwyn astudio Ieitheg Saesneg ac Astudiaethau Celtaidd.

Fel rhan o’i chwrs, mi wnaeth astudio’r Gymraeg a dechreuodd ddangos diddordeb yn nyfodol yr iaith.

Flwyddyn yn ddiweddarach, mi fagodd ddigon o hyder i siarad Cymraeg gyda Kyle Jones, oedd ar ymweliad â Phrifysgol Karolina fel darlithydd gwadd.

Mi wnaethon nhw ganlyn am ddwy flynedd, cyn i Karolina symud i Gymru yn 2019, ac mi wnaethon nhw briodi y llynedd.

Ar ôl dechrau dysgu Cymraeg yng ngwlad Pwyl, mae Karolina bellach yn mynychu cwrs lefel Canolradd gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Abertawe ar ran Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae hefyd yn aelod o glwb darllen ar-lein ac yn mynychu Sadyrnau Siarad yn Nh? Tawe, Abertawe.

Dros y blynyddoedd, mi wnaeth Karolina bendroni a allai hi alw Cymru’n gartref iddi ei hun.

Meddai: “Roedd y brwydrau hanesyddol a ieithyddol y mae Cymru wedi’u hwynebu yn fy atgoffa o hanes gwlad Pwyl, ac o ganlyniad, dechreuais deimlo’n agos at Gymru.

“Er cymaint dw i’n caru fy nheulu, fy ffrindiau, fy niwylliant a fy ngwlad, dw i’n teimlo 100 y cant fy hun yng Nghymru.”

Yn ddiweddar, graddiodd Karolina gyda MA mewn Cyfathrebu Gweledol o Goleg Celf Abertawe, a chafodd ei phrosiect gradd ‘the Polkymraes’ (Polk- o Polka – mewn Pwyleg: menyw o Wlad Pwyl, -ymraes o Cymraes - yn Gymraeg: menyw o Gymru), ei ysbrydoli gan ddylanwadau’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn ogystal â’i threftadaeth Bwylaidd.

Cafodd gwaith celf Karolina ei arddangos yn ‘Y Lle Celf’ yn ystod Eisteddfod AmGen 2021.

‘‘Roedd gweld fy ngwaith yn cael ei arddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn freuddwyd ieithyddol a chelfyddydol, a phan wnes i glywed y newyddion, do’n i ddim yn gallu credu’r peth.

“Dw i wrth fy modd mod i’n gallu siarad Cymraeg, ac yn gallu defnyddio’r iaith a’r diwylliant yn fy ngwaith creadigol.”

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Karolina wedi mwynhau magu hyder wrth ddarllen, siarad neu ysgrifennu yn Gymraeg.

“Er gwaethaf ei hamheuon am ddysgu Cymraeg ar-lein, mae hi wedi cael ei siomi ar yr ochr orau.

“Dw i’n mwynhau dysgu mewn dosbarth rhithiol, achos dw i’n gallu troi fy ngliniadur ymlaen a dechrau’r dosbarth.

“Does dim rhaid meddwl am deithio ac mae hynny’n arbed amser.

“Ro’n i’n poeni na fyddwn i’n gallu deall unrhyw un, oherwydd y microffonau a’r acenion gwahanol oedd gan bobl, ond ces i fy synnu, ac ro’n i’n hapus fy mod i’n gallu deall pawb.”

Ers symud i Gymru, dywed Karolina ei bod wedi cael ei chroesawu gyda breichiau agored, a byddai’n annog eraill i ddysgu’r iaith: “Dw i wrth fy modd fy mod i’n gallu siarad gyda fy ng?r a’i deulu yn Gymraeg.

“Mae gallu siarad Cymraeg wedi golygu bod lle arall i mi yn y byd ar wahân i fy ngwlad fy hun.

“Pan dw i’n siarad Cymraeg gyda rhywun, dw i’n teimlo fy mod i’n gwneud ffrind newydd.

“Mae dysgu iaith yn golygu ymrwymiad, ond dydy o ddim yn amhosib.

“Peidiwch â chymharu eich hun ag eraill, dewch o hyd i’ch dull eich hun a sicrhewch bod y Gymraeg mor fyw â phosibl yn eich meddwl.”