Services

MANOD Orthodox: Third and Sixth Cononical Hours at 10am and the Divine Liturgy of Saint John Chrysostom at 10.30am.Bowydd: Rev Dewi Morris, morn-ing.St David’s: Morning service at 11am.St Michael’s: Morning service at 9.30am.St Mary Magdalene: Mass at 11am with Bishop Edwin.Holy Cross: Mass at 6 pm on Saturday with Bishop Edwin.Bethesda: Prayer service at 10am.

Sports

BLAENAU Amateurs FC’s first match of the new year will be at home to Mynydd Llandegai this Saturday with the reserves at Holyhead Hotspurs. Bro Ffestiniog XV resume their Di-vision 2 fixtures with a derby home match against Harlech. The men’s darts team were soundly beaten 7-1 by Caernarfon at the RWF Club in a pre-Christmas league encounter. Town councilCLLR Erwyn Jones attended a Un-Llais Cymru meeting at Dolgellau and in his report to the town council stated that there was considerable concern regarding the future of the Gwynedd Council service of providing salt bins. Cllr Mel Goch ap Meirion reported his attendance at a Parc Cenedlaethol Eryri meeting which he stated had been an interesting meeting with the planning service hoping to put more emphasis on retaining the original names in the area.By now, there is a map on their website with a link to leave your comments or obtain information regarding the area.Cllr Bedwyr Gwilym has resigned as the town council representative on the Ganolfan Gymdeithasol Committee.A new representative will be appointed in January.

Clwb Cerdded Stiniog

TAITH nesaf aelodau’r clwb fydd dydd Sul yma, 3 Ionawr.Taith leol fydd hon a gofynnir i’r aelodau i droi i fyny ger Ty Gorsaf am 9yb.Mae esgidiau cryf, dillad addas a phecyn o fwyd yn hanfodol i’r daith.

Mirrors

GWYNEDD Council has stated that image mirrors, which were previously due to be put in place, will now not be installed at Park Square and Tanymanod.

Maenofferen Gallery

THE GALLERY hosts an exhibition by the contemporary photographer Jeremy Dean until 9 January.In its glass case are examples of the work by the potter Jane Williams. Later in the month there will be a small selection of paintings from 1974-2015 by Peter McNally at the gallery.Peter is a native of the town, but now lives in London, and he has two prints in the Royal Cambrian Academy, Conwy on show from 9 January.Recently his work was on show at the Machynlleth Gallery.

Plaque

DUE TO building work at their mill, Llechwedd have been unable to complete the work of putting the town council’s logo onto the plaque The work should be completed early in the new year and then permanently erected at the town’s recently named Sgwar Rawson following the town’s twinning with Rawson in Patagonia.

Blaenau Poetry and Creative Writing Group

THE JANUARY meeting of the group will be held at the Bridge Café on Tuesday, 5 January, between 10.30am and noon,For further information, call 01766 830403.

Green Flag

A MEETING has taken place between the Park Partnership and Alaw Ceris of Keep Wales Tidy to help the partnership apply for the Green Flag award. To apply for the award, the partnership is required to send a copy of the town council lease and insurance document with the application.The town council has resolved to provide the documents to the partnership.

Ysgol Tanygrisiau

BU’N AMSER prysur diwedd y tymor gyda’r plant yn cymryd rhan yn Noson Goleuo Stiniog ar 3 Rhagfyr.Y diwrnod wedyn, cynhaliwyd eu Ffair Nadolig gyda phob math o stondinau a Siôn Corn yn galw heibio gydag anrheg i bob plentyn. Gwnaed elw o dros £700. Nos Sul, 13 Rhagfyr, cafodd côr yr ysgol wahoddiad i ganu mewn cyngerdd gyda Côr Cymysg y Blaenau yn Eglwys Dewi Sant i godi arian tuag at yr eglwys. Bore wedyn, aeth y rhan fwyaf o blant yr ysgol i Llandudno i weld pantomein Eira Wen a’r Saith Corach â phawb wedi mwynhau eu hunain. Cafwyd cinio Nadolig blasus yn y cantin ar 16 Rhagfyr ac yn y prynhawn cawsant barti Nadolig yn y neuadd. Cynhaliwyd y Sioe Nadolig Heddwch dros y Byd y diwrnod nesaf, gyda’r plant yn mwynhau eu hunain yn perfformio’r sioe a chael canmoliaeth gan y gynulleidfa. Dydd Gwener, 18 Rhagfyr, roedd cyfle i’r plant a’r staff wisgo eu siwmeri Nadolig i godi arian at Text Santa a llwyddwyd i wneud elw o £70. Ddiwedd Tachwedd cafodd y plant y fraint o ganu yn ser-emoni dadorchuddio cofeb i’r Dr Meredydd Evans ym Mryn Mair yn y pentref.

Merched y Wawr

CYNHALIWYD Gwasanaeth Llith a Charol, Merched y Wawr, Rhanbarth Meirion, yng Nghapel Bowydd, ddydd Sul, 6 Rhagfyr. Trefnwyd y gwasanaeth gan Nia Wyn Davies a Geunor Roberts. Cymerwyd rhan gan aelodau o ganghennau Blaenau Ffestiniog, Trawsfynydd, Deudraeth, Llan Ffestiniog, llywydd y rhanbarth ac ysgrifennydd y rhanbarth. Cafwyd datganiadau cerddorol gan Lowri ac Awel Jones a’r organy-ddes oedd Wenna Jones. Gwnaed casgliad teilwng iawn tuag at Elusen Alzheimer. Cangen y Blaenau oedd yng ngo-fal y baned a’r mins peis.Nos Lun, 14 Rhagfyr, daeth yr aelodau ynghyd yn y ganolfan gymdeithasol i ddathlu’r Nadolig. Darllenwyd neges dymhorol y llywydd cenedlaethol. Yna, dan arweiniad Ceinwen, adroddwyd yr hanesion am rai o draddodiadau’r Nadolig, gyda rhai o’r aelodau yn cymryd eu tro i’w darllen ar y naill a’r llywydd. Canwyd dwy neu dair o garolau ac enillwyd anrhegion arbennig o’r hanes gan nifer o’r aelodau.Ar ddiwedd y cyfarfod mwynhawyd lluniaeth bys a bawd a baratowyd gan yr holl aelodau.Bydd y cyfarfod nesaf ar nos Lun, 25 Ionawr, yn y ganolfan gymdeithasol, pan y dangosir sleidiau o’r Blaenau ‘Ddoe a Heddiw’ gan Dafydd Roberts. Y gystadleuaeth fydd llun hynafol o’r Blaenau.

Eglwys y Bowydd

FORE Sul, 20 Rhagfyr, bu gwasanaeth Nadolig gan blant yr Ysgol Sul.Daeth yr hen, hen stori yn newydd unwaith eto. Iwan a Malan oedd Joseff a Mair yn chwillio am lety ac yna yn ei-stedd wrth y preseb.Bugail oedd Alyssa ac angylion oedd Gwendolyn, Awel Medi a Gwenlli. Cafwyd unawdau a deuawdau gan Lowri ac Awel Haf a’r cyfeilydd oedd Wenna F Jones. Yn dilyn cafwyd te parti ac ymwe-liad gan Siôn Corn gyda anrhegiom iddynt.