Merched y Wawr
EIN gwr gwadd nos Fercher, 7 Hydref, oedd Nigel Nicholas, Aberystwyth a’i destun oedd ‘Yr Arfordir’.
Llywydd y noson oedd Aeronwen Edwards.
Trwy gyfrwng sleidiau, cafwyd awr hyfryd wrth ddilyn arfordir Ceredigion am tua 60 milltir a gorffen wrth eglwys fach hynafol y Mwnt.
Gwelwyd golygfeydd prydferth iawn. Diolchwyd gan Olwen Jones.
Llongyfarchiadau i Sandra ar ddathlu penblwydd arbennig ac i Aeronwen am ennill cwpan y coginio yn Sioe Llanfarian.
Bu rhai ohonom ar wahoddiad cangen Cylch Wyre, lawr yn neuadd Llanrhystud yn gwrando a’r aelodau Cardi-gân.
Cafwyd noson hwyliog o ganu ardderchog.
Diolchwyd am y bwyd hyfryd a’r cymdeithasu gan Anne Gwynne.
Aeth llawer ohonom ar drip celf a chrefft i Bortmeirion a swper yn y Llew Coch, Dinas Mawddwy i ddilyn.
Nos Fercher, 4 Tachwedd, daeth Nia Clement atom i ddangos gemwaith.
Mae Nia’n byw yn Llangadog ac wedi addasu un o adeiladau’r fferm fel gweithdy.
Llywydd y noson oedd Aeronwen Edwards.
Roedd wedi dod â llawer o emwaith hyfryd a bu llawer o brynu arnynt – noson hyfryd.
Balch oeddem o gael aelodau canghennau Llwynpiod a’r Dderi atom.
Cafwyd sawl raffl a bwffe hyfryd i orffen.
Diolchwyd ar ran cangen y Dderi gan Deborah Jones, ar ran Llwynpiod gan Glenys Davies a changen Bronant gan Dorothy Lewis.
Roedd pawb yn falch o weld Eluned Jones, Hafodwen nôl gyda ni mor fuan wedi ei llawdriniaeth.
Tro nesaf, bydd ein cinio Nadolig ar 2 Rhagfyr yn y Conrah, ger Aberystwyth.






.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.