GYDA haf o bêl-droed ar y gorwel, dyma nofel i arddegwyr 11-14 oed, gyda phêl-droed yn ganolog iddi, a pherthynas drafferthus rhwng tad a mab.

Mae Fi a Joe Allen yn sôn am Marc Huws, sy’n ffan anferth o bêl-droed.

Mae Marc yn cael cynnig mynd i Ffrainc i weld Cymru’n chwarae.

Mae’r daith yn gyfle prin iawn i dreulio amser gyda’i dad absennol (sydd hefyd yn ffan mawr o bêl-droed ac ym meddwl Marc, yn edrych yn debyg i Joe Allen).

Mae’r gwyliau yn rhoi cyfle iddynt ddod i adnabod ei gilydd yn iawn.

Disgrifiwyd y nofel yn “gyffrous, Cymreig ac annisgwyl” gan yr awdures Manon Steffan Ros.

Mae Manon yn ddod o Riwlas, Dyffryn Ogwen, yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Nhywyn, Bro Dysynni, gyda’i meibion, Efan a Ger.

Mae yna alw mawr am nofelau i bobl ifanc yn gyffredinol, a hyd yn oed mwy o alw am nofelau am bynciau fel pêl-droed.

“Pan fydda i’n mynd i mewn i ysgolion, dwi wastad yn gofyn i blant beth sydd ar goll yn Gymraeg, ac mae’r atebion yr un fath bob tro – nofelau am chwaraeon, a nofelau antur,” meddai Manon.

Er nad dyma’r ysbrydoliaeth ar gyfer y nofel yma, mae’n wych bod yna nofel gyfoes am bêl-droed wedi’i hanelu at arddegwyr ifanc yn cael ei gyhoeddi.

Fe swynwyd Manon gyda phêl-droed yn ystod pencampwriaeth yr Ewros 2016.

Doedd ganddi ddim llawer o ddiddordeb hyd at hynny.

“Ro’n i wrth fy modd fod y chwaraewyr ‘ma yn ymddangos fel arwyr hollol normal a hwyliog.

“Dwi’n meddwl bod pêl-droed yn rhywbeth sy’n gafael ynoch chi a ddim yn gollwng, ac roedd hynny’n teimlo fel sail ddifyr i nofel.

“Dwi ddim yn meddwl bod ‘na brofiad tebyg i fynd i stadiwm i weld gêm. ‘Dan ni’n ymateb mor onest a greddfol i’r hyn sy’n digwydd ar y cae.

“Mae o’n hyfryd bod yn rhan o tribe yn y ffordd yna.”

Mae Manon yn awdur, dramodydd ac awdur gemau llawn amser.

Mae wedi ysgrifennu dros 20 o lyfrau, ac wedi cael llwyddiant aruthrol wrth ysgrifennu nofelau i blant a phobol ifanc ac wedi ennill Gwobr Tir na n-Og dair gwaith (Trwy’r Tonnau yn 2010; Prism yn 2012; a Pluen yn 2017).