NOS Sadwrn diwethaf, daeth criw da o bobl ynghyd i ganlyn y Fari Lwyd yn ardal Mallwyd a Dinas Mawddwy, i gyd-fynd â’r arfer o ddathlu’r Hen Galan.

Dyma’r 18fed tro i’r traddodiad ddigwydd yn yr ardal, ac mae’n dda gweld nifer o gefnogwyr yn mwynhau’r achlysur.

Cychwynnodd y daith yn ôl yr arfer yn y Brigand’s Inn ym Mallwyd, cyn symud ymlaen i’r Buckley Pines a dod â’r noson i ben yn swnllyd iawn yn y Llew Coch yn Ninas Mawddwy.

Traddodiad sy’n mynd yn ôl i ddiwedd y 18fed ganrif a ddechreuodd yn Sir Benfro ac wedyn i Sir Gaerfyrddin yw’r Fari Lwyd.

Gorchuddir penglog ceffyl gyda lliain gwyn, a gosod rhubanau amryliw yn addurn, gyda llygaid gwydr.

Yna mae’r penglog yn cael ei osod ar ddarn o bren, ac mae’n cael ei gario gan y gwr sydd wedi ei orchuddio gan y lliain gwyn.

Arweinir y Fari Lwyd gan un ymhlith criw o ddynion a hogiau, a’r traddodiad yw eu bod yn mynd o dy i dy gan ganu penillion mewn ymgais i ddarbwyllo’r merched eu caniatáu i fynd mewn i’w ymuno a hwy yn y ty.

Daeth y band Zubiko o Wlad y Basg, Ffrainc a Pharti Dawns Aelwyd Aberystwyth i ddiddanu.