Ar ôl tri chynnig i Gymro, mae Eisteddfod Ceredigion 2020 yn digwydd eleni!

Oes gennych chi ychydig oriau i’w sbario’n ystod wythnos yr Eisteddfod yng Ngheredigion? Os felly beth am wirfoddoli i fod yn rhan o’r tîm stiwardio eleni?

Wrth wirfoddoli yn yr Eisteddfod fe fyddwch chi’n un o’r criw fydd yn croesawu ymwelwyr i’r ŵyl – a hynny am y tro cyntaf ers tair blynedd!

Mae nifer o leoliadau ar hyd a lled y Maes ac fe fydd angen criw o wirfoddolwyr cyfeillgar i weithio ym mhob un ohonyn nhw.

Cynnigir hyfforddiant llawn i bawb, a chefnogaeth i bob un o’r tîm yn ystod yr wythnos ei hun.

Eisiau sgwrs anffurfiol am y cyfrifoldebau a’r profiad? Cysylltwch ag un o’r criw sy’n trefnu’r gwaith stiwardio eleni. Anfonwch ebost at [email protected], [email protected] neu [email protected] i drefnu sgwrs.

Dysgu Cymraeg? Mae gwirfoddoli yn yr Eisteddfod yn gyfle gwych i ymarfer eich Cymraeg! Heb ddefnyddio Cymraeg ers peth amser? Dewch i wirfoddoli! Mae’n gyfle ardderchog i ail-afael yn eich Cymraeg!

Dyddiad cau: 7 Mehefin 2022. Ewch i: https://www.eisteddfod.cymru/2022-gwirfoddoli