Canolfan Hanes Uwchgwyrfai

Cafwyd cynulleidfa deilwng i Ein Gwir Hanes ddydd Sadwrn.

Y darlithwyr oedd J Dilwyn Williams a Nia W Powell a llywyddwyd gan Howard Huws, Bangor. Bydd Cyfeillion Eban yn cyfarfod i drafod nofel John Rowlands, Ie’nctid yw ‘Mhechod nos Fawrth, 17 Tachwedd.

Testun Gwenan Gibard, y delynores a’r gantores dalentog, nos Fercher, 25 Tachwedd, fydd Alawon a’u Cefndir.