MAE awdur o Bwllheli wedi ysgrifennu llyfr newydd ar un o ffotograffwyr gorau’r byd, y Cymro, Philip Jones Griffiths.
Ddegawd ers marwolaeth Philip Jones Griffiths, fe gyhoeddir y cofiant cyntaf erioed iddo, a hynny yn ei famiaith gan Ioan Roberts, awdur a chyn ohebydd i bapur newydd Y Cymro.
Daeth Ioan i adnabod Philip trwy’r gwaith teledu a rhaglenni fel Y Dydd a Hel Straeon.
Cafodd Philip Jones Griffiths - Ei Fywyd a’i Luniau ei gyhoeddi’r mis diwethaf gan wasg y Lolfa, yn cynnwys 50 o luniau trawiadol gan Philip ei hun, o Gymru, Fietnam a sawl gwlad arall.
Fe gofir am Philip Jones Griffiths yn bennaf am ei luniau yn rhyfel Fietnam, a gyfrannodd at newid agwedd pobl America tuag at y rhyfel hwnnw. Yn ystod ei yrfa fe ymwelodd â 140 o wledydd, llawer ohonynt yng nghanol erchylltra rhyfel a dioddefaint.
Ond byddai’n gwrthod cael ei labelu fel ffotograffydd rhyfel.Nid rhyfela ynddo’i hun oedd ei ddiddordeb, ond mynd i wraidd y rhesymau fod y rhyfel yn digwydd, a’r effaith a gai ar fywydau pobl ddiniwed.
Yn Fietnam credai fod lluoedd yr Unol Daleithiau yn ceisio gwthio’u gwerthoedd eu hunain ar yr hen wareiddiad lleol, rhywbeth a’i hatgoffai o’r gwrthdaro diwylliannol ac ieithyddol yr oedd wedi ei brofi yn ystod ei blentyndod ger y ffin yn Rhuddlan.
Y rheswm iddo fod mor llwyddiannus yn ei waith yn Fietnam oedd bod ei brentisiaeth ar gyfer y wlad honno wedi cychwyn yn ystod ei blentyndod yng Nghymru, meddai. Mae’r gyfrol hon yn adrodd hanesion newydd am y plentyndod hwnnw, gan gynnwys cryn dipyn o hiwmor.
Ei amcan trwy ei waith, meddai, oedd “taenu goleuni ar ddarnau tywyll o’r byd”.
“Roeddwn wedi penderfynu mai fi fyddai’r un i ddarganfod beth oedd y gwirionedd” meddai. “Tynnu lluniau go iawn o bobl go iawn, dyna fy uchelgais.”
Mae Philip Jones Griffiths – Ei Fywyd a’i Luniau ar gael nawr.
Darllenwch mwy yn y rhifyn cyfredol y Cambrian News




.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.