THE latest community news from Abersoch
Merched y Wawr
AGORWYD tymor newydd y gangen drwy dreulio gyda’r nos amser difyr iawn dros ben yn Aberdaron.
Ymwelwyd â Becws Islyn, yr adeilad unigryw a nodweddiadol hwnnw â’i do gwellt a’i gelf luniau diddorol yn potreadu chwedlau Ynys Enlli.
Croesawyd ni yn gynnes gan Geraint a’i wraig Gillian a chyflwynodd y cwpl dirodres a gweithgar yma i ni sut i ddylino a phobi bara.
Cawsom lwmp o does i’w drin ac yna ei adael i ‘brofi’ tra bu Geraint yn rhoi dipyn o hanes cychwyn eu taith fentrus i gymryd drosdd hen fecws Islyn, a heb brofiad o fath yn y byd, ei droi yn fusnes gwerth chweil. Yna, tra bu’r bara yn crasu, cawsom baned a theisen o’n dewis, blasus dros ben!
Diolchwyd iddynt gan Marnel.
Llywyddwyd y noson yn abl iawn gan Iorwen Thomas.
Croesawodd Joan Griffith, Creigir Goch, sydd yn ail ymaelodi, ac anfonwyd ein cyfarchion i wella’n fuan at Arthur Roberts, gwr Margaret, ac at Gwilym Evans, gwr Marnel. Croesawyd hefyd Beti Huws a Margaret Williams, Craig Wen ar ôl eu profedigaeth o golli Huw Williams, gwr Margaret.
Cydymdeimlwyd â Iola ar golli ei brawd Elfyn.
Dymunwyd gwellhad buan i Dori sydd yn yr ysbyty a dymuniadau gorau i Janno a Richard, Ty Newydd ar ddathlu Penblwydd Priodas Ddiemwnt ym mis Hydref.
Buom yn meddwl am Anna ar ei hantur yn Rwsia. Edrychwn ymlaen at gael stori pan ddaw adre!
Cyfeirwyd at y flwyddyn bwysig sydd o’n blaen, yn dathlu hanner can mlynedd ers cychwyn Cangen Abersoch ar 8 Tachwedd 1967, sef Dathlu’r Aur.
Bydd y cyfarfod nesa’ ar 4 Hydref, lle bydd y Cyng Dewi Wyn Roberts yn dweud ei hanes yn yr heddlu.
Bydd croeso i aelodau newydd i ymuno ac i rannu’r ysbryd a chyfeillgarwch hwyliog sydd gennym.
Diolchwyd i Yvonne Lloyd-Jones am baratoi’r rhaglen ac i Mair Hughes, Llain Las, am drefnu’r noson.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.