THE latest community news from Abersoch

Merched y Wawr

ROEDD swper Gwyl Ddewi yn Neuadd y Pentref yn achlysur difyr iawn.

Yn gyntaf, estynodd y llywydd, Iorwen Thomas, groeso cynnes i’r aelodau a’u gwahoddedigion a chroeso arbennig i Eirlys ar ôl ei gwaeledd.

Gresynodd nad oedd Beti yn bresennol, hithau wedi cael triniaeth.

Llongyfarchodd Margot a Martin ar eu priodas a dau gwpl ar ddathlu penblwydd priodas, sef Jean a Wyn, Llwyn, a Mair ac Eric, Cwmafon.

Wedi canu Cân y Mudiad, eisteddodd pawb i fwynhau’r cawl blasus, y darten afal a’r baned baratowyd gan gaffi Blades.

Diolchodd Iorwen iddynt am eu gwasanaeth clên eto eleni.

Yna cyrhaeddodd y diddanwyr, Meibion Carnguwch, dynion ifanc llawen, brwdfrydig, a’u harweinydd, Ann Williams, Llithfaen.

Cafwyd orig ddiddorol yn gwrando arnynt, a’u hunawdydd, yn canu ffefrynau gydag arddeliad.

Cafwyd datganiad hyfryd o Y Rhosyn gan Ann Williams hefyd. Diolchodd Iorwen yn wresog iddynt ac i’w cyfeilydd, Nia Humphreys, a siarsiodd y bechgyn i ddal ati i gofio a lledaenu’r pethau gorau yn ein hiaith a’n diwylliant.

Calondid oedd clywed mai’r bechgyn eu hunain sefydlodd y côr, nid er mwyn cystadlu ond i fwynhau canu a diddori eraill. Cawsant arweinydd delfrydol yn Ann a chyfeilydd yn Nia.

Rhoddwyd y gwobrau raffl, enillwyd gan Catrin a June, gan June a Mair Jones.

Diolchodd y llywydd yn arbennig i Mair Hughes am yr holl drefniadau.

Canwyd yr Anthem Genedlaethol i ddiweddu.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]