THE latest community news from Bronant

Merched y Wawr

CAWSOM gwmni Arwel Jones ar 3 Hydref. Llywydd y nos oedd Anne Gwynne.

Mae Arwel Jones â’i wreiddiau ym Mhennant a theitl y noson oedd ‘O Geredigion i Ohio.’

Yn 1818 aeth chwe theulu allan i Ohio ac mewn rhai blynyddoedd wedyn, o 1830 ymlaen ymfudodd tua 3,000 i Gallia a Jackson yn Ohio. Bu sawl teulu o ardal Bronant allan ac mae rhai perthnasau iddynt yn dal yn byw yn Bronant.

Diddorol oedd clywed Arwel yn sôn am ferch o Aberaeron, sef Bet Fowler a aeth allan i Ohio at berthnasau ac ymhen amser priodi yno â Evan Davies. Mae Bet yn dal cysylltiad â Chymru o hyd, er mewn oedran mawr.

Eleni daeth llawer draw o Ohio i Gymru i ddathlu ac mae llyfr Ohio and Beyond allan, sy’n werth ei gael.

Diolchwyd am noson dda gan Jacqueline Edwards.

Dymunwyd gwellhad buan i Eluned Jones, Nanteos wedi ei llawdriniaeth a phen-blwydd hapus i Gwynfor James, Rowena ar ei ben-blwydd arbennig.

Mae Gwynfor bob amser yn ein gyrru’n ddiogel i bob trip a chinio. Cafwyd gwerthiant pen bwrdd, gydag elw da i’r gangen.

Ar 7 Tachwedd daeth Elinor Jolly, Arfryn, Tyncelyn atom.

Teitl y noson oedd ‘Papur, pensil a phaent’. Bu Jac y mab yn rhoi hanes ei fam; roedd diddordeb mawr gydag Elinor i wneud lluniau yn ifanc iawn.

Rhannodd ei ffrind Nia papur a phensil i bob aelod i wneud llun pensil.

Roedd wedi dod â llawer o luniau i’w gwerthu, o olygfeydd o eira a sawl anifail a bu llawer o brynu. Diolchwyd gan Brenda Jones a chafwyd te hyfryd i orffen.

Buom yn cystadlu yn y Cwis Cenedlaethol, da iawn ferched am ddod yn bumed.

Roedd y noson yng ngofal Eirlys Morgan sy’n llywydd am ddwy flynedd a phob hwyl Eirlys; mae Jacqueline ac Olwen gyda swyddi’n barod.

Bu ein cinio Nadolig ar 5 Rhagfyr gyda chwis gan John Jones, Ffair Rhos.

Dymunir pob bendith i’n haelodau dros y Nadolig a’r flwyddyn newydd.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]