THE latest community news from Bronant

Merched y Wawr

NOS Fercher, 6 Rhagfyr aethom i Westy’r Hafod, Pontarfynach i gael cinio Nadolig. Cawsom groeso cynnes gan Dewi a Nicole Gwynne.

Cafwyd gair o groeso gan Eirlys Morgan ac offrymwyd gras gyda’n gilydd.

Cawsom ginio blasus iawn o dri chwrs a choffi a mins pei i ddilyn.

Daeth pob aelod ag anrheg ac wedi’r cinio rhannodd Llinos anrheg i bob aelod a chafwyd llawer iawn o hwyl.

Hefyd buom yn chwarae bingo ac aeth pedair aelod gantref â gwobrau.

Darllenodd Aeronwen lythyr yn sôn am y daith i Peterborough yn nwyrain Lloegr i gofio am y Dywysoges Gwenllïan - dangosodd rai diddordeb i fynd.

Diolchodd Tegwen Jones i Aeronwen a Llinos am noson dda ac Elwyn James am ein gyrru yn ofalus.

Oherwydd eira, methodd y gangen fynd i Pennal View i ganu carolau, ond dymunwn yn dda i bawb yn y cartref - ei ddiolch i’r staff am bob gofal.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob aelod.

Mabolgampau gydag Arwel Jones fydd gyda ni ar 10 Ionawr.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]