THE latest community news from Chwilog

Sefydliad y Merched

MAE eleni yn flwyddyn bwysig iawn i Sefydliad y Merched Chwilog.

Saithdeg mlynedd yn nôl cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y sefydliad yn y Neuadd Goffa.

Yn ystod y misoedd diwethaf bu dipyn o ddathlu ymysg yr aelodau. Yng Ngorffennaf buom yng Ngwesty’r Afr, Glandwyfach yn mwynhau pryd o fwyd a chafodd pob aelod ‘goster’ gyda logo Sefydliad y Merched Chwilog arno sy’n cynnwys y ‘Lôn Goed’ o waith coed Miriam Jones, Llanengan a’r logo wedi ei gynllunio gan Ellen Llechfaen.

Ar brynhawn Mawrth ym mis Awst cafwyd te prynhawn yng ngardd Dolwen gydag aelodau Sefydliad y Merched Clynnog yn ymuno â ni.

Roedd y tywydd yn braf iawn a bu pawb yn bwyta llond eu bolia ac yn sgwrsio’n hamddenol braf.

Roedd cyfle i bawb gael golwg ar luniau’r aelodau ar hyd y blynyddoedd, oedd wedi cael eu harddangos yn yr amgueddfa oedd wedi ei greu yn y Ty Haul yng nghornel yr ardd.

Croesawodd Ceri yr aelodau i gyfarfod cyntaf tymor yr hydref yn y Neuadd Goffa ar nos Wener, 8 Medi, ac estynnodd groeso i’n gwr gwadd, sef J R Jones, Bryncroes a fu’n sgwrsio ar ‘Hanes y Genod’.

Cafwyd hanes cryno iawn ganddo ar sut i gadw gwenyn ac i brosesu mêl.

Diolchodd Ceri i Mr Jones am y sgwrs ddifyr iawn.

Trafodwyd y llythyr misol, gan nodi amryw o bethau. Gwesteion y baned oedd Caren a Karen. Enilydd y raffl, rhoddedig gan Karen, oedd Margaret Pandy.

Cynhelir cyfarfod mis nesaf ar 6 Hydref yn y Neuadd Goffa pryd cawn ‘Noson Hwyliog’ gyda Mair Thomas Ifans.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]