THE latest community news from Cwmystwyth

Eisteddfod Gadeiriol

CYNHALIWYD yr Eisteddfod ar ddydd Sadwrn, 16 Medi.

Y beirniaid eleni oedd Geraint a Sue Hughes, gwr a gwraig o Beniel, Caerfyrddin gyda Sue yn beirniadu’r canu a Geraint y llefaru.

Rocet Arwel Jones, Aberystwyth oedd yn beirniadu’r ochr lenyddol.

Cyn brif-athrawes Ysgol Llanafan, Dilys Rees-Jones, Tregaron fu’n beirniadu’r cystadlaethau cyfyngedig. Lona Phillips o Abermagwr oedd yn cyfeilio. Yn arwain yn ddeheuig roedd Elen Lewis, Llanfihangel-y-Creuddyn a’r Parch Ingrid Rose, Pont-rhyd-y-groes.

Yn anffodus methodd Aled Evans, Trisant fod yn bresennol oherwydd anhwylder.

Cyflwynwyd Brenda Evans, Llangadog ein llywydd eleni gan Edgar Morgan, Brenda fel Edgar yn un o blant y Cwm.

Cafwyd ychydig o hanes eisteddfodau ei phlentyndod gan Brenda.

Roedd seremoni’r cadeirio yn nwylo medrus Elen Lewis. Testun cerdd y gadair oedd “Lliw/Lliwiau” ac ymgeisiodd 13 amdani.

Y bardd buddugol oedd Dr Islwyn Edwards, Aberystwyth, ond o Ffair Rhos yn wreiddiol. Cyflwynwyd y gadair iddo gan Mair Jenkins, Ffair Rhos. Richie, ei gwr oedd wedi gwneud y gadair dderw hardd gan ddilyn patrwm cadeiriau eisteddfodol y gorffennol, ond yn anffodus oherwydd anhwylder ni fedrai fynychu’r eisteddfod. Dafydd Morris-Jones, Ysbyty Cynfyn seiniodd y corn gwlad a chyfarchwyd Islwyn gan Selwyn Jones o’r Bont. Cyrchwyd y bardd gan Lynne Davies a Gladys Morgan a chanwyd Cân y Cadeirio gan Guto Lewis, Llanon.

Canlyniadau Canu

Unawd Cyfyngedig Cyfnod Sylfaen: 1af Magi Jones, Syr John Rhys. Cyfyngedig Bl 3-6: 1af Swyn Davies, Syr John Rhys; 2il Gwenan Jones, Syr John Rhys.

Unawd agored Cyfnod Sylfaen 1af Meia Evans, Llanfihangel-y-Creuddyn. Unawd Agored Bl 3 a 4: 1af Gwenan Jones, Ponterwyd; 2il Ifan Williams, Tregaron.

Unawd agored Bl 5 a 6: 1af Elin Williams, Tregaron.

Canu Emyn dan 12 oed: 1af Ioan Mabbutt, Aberystwyth.

Unawd ar unrhyw offeryn cerdd, oed cynradd: 1af Gwenan Jones, Ponterwyd.

Unawd dan 16 oed: 1af Tomos Ifan Meredith, Llanbed; Unawd dan 21: 1af Guto Lewis, Llanon.

Unawd ar unrhyw offeryn cerdd, oed uwchradd: 1af Soffia Nicholas, Aberystwyth.

Canu Emyn dan 60 oed: 1af Efan Williams, Lledrod.

Alaw Werin Agored: 1af Harri Huws, Dinas Mawddwy.

Canu Emyn dros 60 oed: 1af Tecwyn Jones, Machynlleth.

Cân Bop/ Cân allan o Sioe Gerdd: 1af Heledd Bessant, Pennal. Unawd Gymraeg: 1af John Davies, Llandybie.

Her Unawd: 1af Crwys Evans, Pont-rhyd-y-groes.

Parti Canu: 1af Merched Bro’r Mwyn.

Sgen Ti Dalent dan 16 oed: 1af Soffia ac Elenor Nicholas, Aberystwyth.

Sgen Ti Dalent dros 16 oed: 1af Meibion y Mynydd.

Côr: 1af Merched Bro’r Mwyn; 2il Meibion y Mynydd.

Llefaru

Cyfnod Sylfaen Cyfyngedig: 1af Ifan Hedd Lewis, Mynach.

Bl 3-6 Cyfyngedig: 1af Charlie Hughes, Syr John Rhys.

Cyfnod Sylfaen Agored: 1af Meia Evans, Llanfihangel-y-Creuddyn.

Agored Bl 3 a 4: 1af Mari Williams, Tregaron; 2il Ifan Williams, Tregaron.

Agored Bl 5 a 6 1af Ioan Mabbutt, Aberystwyth Dan 16 oed: 1af Siwan Aur George, Lledrod.

Dan 21: 1af Nest Jenkins, Lledrod.

Dysgwyr: 1af Rachel Seabrook, Pontarfynach.

Adrodd Digri: 1af Meleri Morgan, Bwlchyllan.

Darllen darn o’r Ysgrythur: 1af Nest Jenkins, Lledrod.

Parti Llefaru Dysgwyr: 1af Parti Brython.

Parti Llefaru Agored: 1af Merched y Wawr Mynach a’r Cylch.

Brawddeg: 1af Mary B Morgan, Llanrhystud.

Limrig: 1af Alun Jenkins, Pontarfynach

Cystadlaethau lleol

Arlunio Cyfnod Sylfaen 1af Sara Erin Jenkins, Mynach.

Arlunio Bl 3 a 4: 1af Hedd James-Morris, Syr John Rhys.

Arlunio Bl 5 a 6: 1af Cynan James-Morris, Syr John Rhys.

Llun Camera: 1af Sara Erin Jenkins, Pontarfynach.

Llawysgrifen: 1af ac 2il Jane Hopkins, Pontarfynach.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]