THE latest community news from Ganllwyd

Sioe Gynnyrch

Dydd Sadwrn, 16 Medi cynhaliwyd y Sioe Gynnyrch Flynyddol ar Fferm Dolmelynllyn ac yn y neuadd bentref.

Y llywyddion eleni oedd Alan a Sian Humphreys o Benrhyndeudraeth.

Y prif enillwyr oedd: Cynnyrch Gardd Agored, Dewi Evans, Bala a Bob Kirkman, Rhyduchaf; Cynnyrch Gardd Lleol, Emrys Davies, Ganllwyd; Blodau Agored, Eurwyn Roberts, Dolwyddelan; Blodau Lleol, Sandra Cocks, Ganllwyd; Mêl, Carys Edwards, Ganllwyd; Bwyd Cadw, Enid Morris, Ganllwyd; Coginio, Gwen Evans, Trawsfynydd; Gwin, Bob Kirkman, Rhyduchaf; Arlunio a Ffotograffiaeth, Sioned Roberts, Abergeirw; Gwaith Llaw, Helen Thomas, Llanfachreth; Cynnyrch Ffermdy, Llio Jones, Brithdir; Cynnyrch Fferm, Hefin Jones, Harlech; Cneifio, Glyn Jones, Y Bala; Ffyn, Arthur Gwynn Jones, Dinbych; Coginio Ieuenctid, Glesni Jones, Ganllwyd; Crefft Ieuenctid, Lliwen Thomas, Brithdir; Dahlias, Eurwyn Roberts, Dolwyddelan; Cwn, Jackie Baggot.

Medalau – Dan 7, Cadi Prys Jones, Brithdir; Dan 9, Heledd Edwards, Talerddig; Dan 12, Guto Pugh, Trawsfynydd; Dan 15, Lliwen Thomas, Brithdir; Dan 19, Ffion Pugh, Trawsfynydd

Gwobrau Arbennig – Gwin Coch Sych – Carys Edwards, Ganllwyd; Sbwng Jam a Hufen – Ffion Pugh, Trawsfynydd; Bakewell Slices – Gwion Jones, Ganllwyd.

Dymuna swyddogion a phwyllgor y sioe ddiolch o galon am bob nawdd a chefnogaeth i gynnal Sioe lwyddiannus arall.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]