THE latest community news from Garnfadryn
Gwasanaeth y Plant
AR ddydd Sul, 17 Rhagfyr, am 2yp cafwyd gwasanaeth Nadolig gan y plant.
Diolch iddynt am wneud eu gorau: Bedwyr a Ianto, Ty Newydd, Celt a Cadi Frondeg, Nansi a Harri Efaulnewydd a Ianto Ty’n Berllan.
Diolch hefyd i bawb a fu’n ei dysgu.
Fe alwodd Sion Corn i weld pawb ac i roi anrheg i pawb gymrodd ran.
Noswyl Nadolig
CYNHALIWYD gwasnaeth noswyl Nadolig.
Cymrwyd rhan gan Eryl, Tir Tlodion, Catrin, Neuadd, Gruffudd, Llechwedd a Sharon ac Elin, Tanbwlch.
Diolch am gymryd rhan ac am eich parodrwydd bob amser.
Pwyllgor
CYNHELIR pwyllgor er mwyn casglu arian i brynu diffibileiddiwr i ardal Garnfadryn, nos Fercher, 17 Ionawr am 7.30yh.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.