THE latest community news from Lampeter
Cylch Cinio
Ar nos Iau, 6 Rhagfyr daeth aelodau Cylch Cinio Llanbed ynghyd yng Nghlwb Rygbi’r dref ar gyfer trydydd cyfarfod y tymor presennol, gwestai arbennig y noson oedd Eirios Thomas MBE a fu’n drefnydd Mudiad Ffermwyr Ifanc Sir Gâr am 41 mlynedd.
Er ei bod bellach yn byw ym mro Llanfynydd, ei chartref cyntaf oedd fferm Coed Eiddig yng Nghwmann a chafodd ei haddysg yn ysgolion Cwmann a Llanbed, cyn mynd i astudio gwyddorau cartref yng ngholeg Bangor.
Wedi treulio pedair blynedd yn athrawes yn Ysgol Dolgellau, fe’i hapwyntiwyd i’r swydd a fu ganddi tan iddi ymddeol â’i phrofiad yn y swydd honno oedd deunydd ei hanerchiad am ‘weithio gyda phobol ifanc.’
Er llawer newid ym myd technoleg, clywyd nad yw seiliau llwyddiant Mudiad y Ffermwyr Ifanc wedi newid oddi ar ei ddyddiau cynnar yn nhridegau’r ganrif ddiwethaf, sef meithrin sgiliau cyfathrebu a chymdeithasu a rhoi hyder i’r ieuenctid i wneud defnydd llawn o’u talentau – pethau sy’n medru bod o fantais arwyddocaol ym myd cystadleuol gwaith a gyrfa.
Un newid y bu Mrs Thomas yn arbennig o falch i’w hyrwyddo yn ei chyfnod fel trefnydd Sir Gâr, oedd sefydlu’r arfer o gynnal trafodaethau’r mudiad trwy gyfrwng y Gymraeg ac yr oedd yn argyhoeddedig o gyfraniad y mudiad yn gyffredinol i’r iaith, yn ogystal â’i gyfraniad i gymunedau trwy ddiddanu, llanw neuaddau a chodi arian i elusennau.
Cafwyd ganddi ddarlun llawn o weithgareddau’r mudiad, gan gynnwys y teithiau cyfnewid gyda ffermwyr ifanc gwledydd eraill a chan nodi’r ‘sioc ddiwylliannol’ cymharu byd a ddeilliodd o ymweliad Homer Huws o Batagonia ac ymweliad ffermwyr ifanc o Tsiecoslofacia yn nyddiau comiwnyddiaeth.
Yr oedd Mrs Thomas yn ymfalchïo yn llwyddiant nifer o gyn-aelodau’r mudiad – Nigel Owens y dyfarnwr a’r diddanwr, Shân Cothi’r gantores a’r ddarlledwraig adnabyddus ac Aled Hall y canwr operatig enwog.
Ymhlith ei hatgofion oedd un cyfarfod yn rhinwedd ei swydd gyda’r diweddar Ian Paisley ym Mrwsel a chael gwybod ganddo ei fod yntau wedi treulio peth amser yn Llanbed.
Rhoddwyd gair o werthfawrogiad gan y Cyng Eirwyn Williams, ei hun yn gyn-aelod o’r mudiad, gan ddiolch i Mrs Thomas am anerchiad rhugl a rhwydd, oedd yn amlwg wedi ennyn diddordeb ymhlith aelodau’r Cylch.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 3 Ionawr pan groesawir Dorian Morgan i sôn am ‘gyrraedd pob prifddinas yn Ewrop.’
Mae tymor 2018-19 yn mynd rhagddo yn hwylus iawn o dan ofalaeth y swyddogion am y flwyddyn.
Yn y llun uchod o’r chwith: Tom James, trysorydd; Tim Jones, ysgrifennydd; Twynog Davies, ysgrifennydd siaradwyr; Eifion Williams, llywydd; Richard Marks, ysgrifennydd y wasg; a Haydn Richards, is-lywydd.
Ramblers
Once again this year the Lampeter group will be taking part in the annual Ramblers Association’s Winter Walking Festival running from Christmas through to the new year.
This year the theme will be on loneliness and inclusion and the group is pleased to engage with this by ensuring the walks are welcoming and assessable for those who may be nervous about coming out and meeting new people for the first time.
On Saturday, 29 December they will be meeting at 10am on the Rookery Car Park for about a two hour stroll, about three miles or so, around Lampeter.
Their route will depend on the weather and they will be seeking out Lampeter’s hidden histories along the way.
On Saturday, 5 January, the first walk in 2019 will be a leisurely four miles in Talgarreg starting from Glan yr Afon Arms where they will finish off with a poem and a pint.
An informal event, they invite poems, verses and quotes on the theme of ‘Streams’ and they’re sure there will be lots of conviviality and friendly competitive fun in our offerings.
Then on 13 January they are venturing to the Gwaun Valley to welcome in the Julian New Year, celebrating Hen Galan, with a four-mile walk and visit to the Dyffryn Arms for a celebratory toast.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.