THE latest community news from Lampeter
Merched y Wawr
AGORWYD y cyfarfod blynyddol trwy ganu cân y mudiad, yna ymlaen i ddelio gyda llawer o weithgareddau busnes.
Llongyfarchodd Elin, y llywydd, y cystadleuwyr ac enillwyr a gymrodd ran yng Ng?yl y Pum Rhanbarth yn Felinfach a dymuno pob lwc i’r rhai oedd yn cystadlu yng Ng?yl Genedlaethol Merched y Wawr ym Machynlleth.
Cymhellodd Elin ni i bara ar ein tasg o gasglu sbwriel, tynnu llun ein bagiau a rhoi gwybod i Mary faint ydym wedi gasglu.
Tynnwyd sylw hefyd at ddigwyddiadau ynglyn ag Eisteddfod 20/20.
Thema pabell Merched y Wawr fydd ‘Merched Ceredigion Heddiw - choeliwch chi byth!’
Mae Jill Lewis, yr is-lywydd cenedlaethol presennol, yn mynd i arwain côr hwyliog i berfformio ar lwyfan y maes amser cinio ar y dydd Mercher.
Bydd Jill yn cael ei urddo yn lywydd ar yr un dydd.
Mae hwn yn agored i aelodau Ceredigion a Phenfro.
Bydd ymarfer cyntaf Ceredigion ar 13 Mehefin yn NhyGlyn Aeron am 7.30yh pan fydd penderfyniad pa ganeuon i’w canu.
Yn ail ran y noson, pleser mawr oedd cael Luned Mair i’n plith i siarad am ei gwaith fel seicolegydd.
Croesawodd Elin hi trwy ddweud ei bod yn ei hadnabod ers yn blentyn bach.
Merch Elaine a Dylan Iorweth yw Luned Mair.
Priododd â Dorian eleni ac maent yn byw yn Alltyblaca gyda’u whiped bach o’r enw Edgar.
Graddiodd yn seicoleg o Gaergrawnt, yna ymlaen i Bangor ac ers hynny wedi bod yn gweithio tuag at fod yn seicolegydd clinigol.
Ar ôl swyddi fel gweithiwr cefnogi i bobol ag anabledd dysgu a seicolegydd cynorthwyol gyda Thîm Anabledd Dysgu Cymunedol Ceredigion a Gwasanaeth Poen Cronig Hywel Dda, mae erbyn hyn yn seicolegydd clinigol dan hyfforddiant.
Mae hyn yn golygu gweithio yn y maes yn ogystal â threulio amser yn y brifysgol yng Nghaerdydd. Mae hyn oll yn cymryd tair blynedd ac mae yn gobeithio cymhwyso yn 2021.
Cawsom noson ddiddorol ac addysgiadwy gyda y rhan fwyaf ohonom ddim yn gwybod llawer am waith seicolegydd clinigol.
Gwnaeth siarad yn glir a dealladwy, a’n cael i gymryd rhan mewn gemau cof, a’r ffordd yr ydym yn gweld a dehongli pethau.
Esboniodd beth yw seicoleg, ei fod ynghlwm â’r meddwl ac ymddygiad, sut i ni’n dysgu, cofio, ein hiaith a’n deallusrwydd.
Gall fod ynghlwm â gwaith cymdeithasol, fforensig, chwaraeon, gwaith a busnes, iechyd ac mewn ysbyty yn y wardiau neu yn hyfforddi y gweithwyr.
Gall fod ynghlwm hefyd â iechyd meddwl ac anabledd.
Gall gwellhad fod drwy therapi mewn chwech i wyth sesiwn neu rai misoedd ac i eraill flynyddoedd.
Diolchwyd i Luned Mair gan Noeleen. Diolchodd hefyd i Avril, Gwyneth a Morfudd am y luniaeth.
Byddwn yn cwrdd nesa ar 12 Mehefin am 1.45yp ar y Rwceri pan awn ar ein taith ddirgel.
Diolch i Verina am wneud y trefniadau.
Custard Queens WI
LAMPETER Custard Queens WI will be cutting the ribbon to open the second Incredible Edible Garden in Lampeter on Friday, 7 June at 2pm.
The garden is outside The Wash Tub on Station Terrace and has been planted by the Custard Queens, with the help and advice of Lampeter Incredible Edible team, with vegetables for everyone to share. Custard Queens have bought a water butt and they have been given a watering can so everyone can nurture the garden.
The onions, spinach, chard, radishes, tomatoes and salad leaves are coming on well.
They would like to thank The Wash Tub for providing the site, Incredible Edible Llambed for providing the inspiration, knowledge and support, D L Williams Home Centre for providing paint to re-do the railings and Robert’s Garden Centre for the compost and watering can, and to all members and their families for their enthusiasm and man/woman power to get this project up and running.
St Peter’s Church
FRIDAY, 7 June: Monthly hunger lunch to support Christian Aid at 12pm until 1.30pm in the church hall.
Sunday, 9 June: 8am, Holy Communion in English; 10.30am, Holy Communion - bilingual.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.