THE latest community news from Lampeter
Noddfa
CYNHELIR Oedfa Garolau golau cannwyll yng Nghapel Noddfa am 5yh nos Sul, 7 Ionawr.
Cesglir at Gymorth Cristnogol.
Croeso cynnes i bawb.
Cymanfa Garolau
DAETH cynulliad teilwng ynghyd i Gymanfa Garolau yng Nghapel Brondeifi wedi’i threfnu gan swyddogion Aelwyd ac Adran yr Urdd.
Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Llinos Evans, yn arbennig i Rhiannon Lewis, yr arweinydd a’r Parch Alun Wyn yr organydd.
Cyflwynwyd darlleniadau o’r Beibl, gweddïau ac eitemau cerddorol gan unigolion, a’r cyfan o safon uchel iawn.
Bu’r plant a’r bobl ifanc yn cyhoeddi’r carolau a gwneud hynny yn hynod ddeallus.
Yn ogystal â hyn, pleser oedd gwrando ar ddatganiadau swynol gan gôr yr Adran a pharti’r Aelwyd dan arweiniad Rhiannon, a Lois yn cyfeilio.
Mae Rhiannon yn meddu ar ddawn arbennig i ddal sylw ei chynulleidfa, yn enwedig y plant ac yn eu tro, cawsant hwyl wrth agor drysau calendr adfent a darllen y negeseuon pwysig tu ôl i bob un.
Yn ystod y nos mwynhawyd canu carolau traddodiadol a chyfoes dan ei chyfarwyddwyd medrus.
Talodd Llinos deyrnged uchel i Rhiannon a’r Parch Alun Wyn am eu gwasanaeth clodwiw, i’r cyfeilyddion Lois ac Eirian am eu cyfraniad pwysig hwythau, i bawb a gymerodd ran, i’r gwirfoddolwyr wrth y drysau ac i Janet am ei chymorth gyda’r trefniadau.
Diolchodd i’r Parch Alun Wyn a swyddogion Brondeifi am bob cydweithrediad ac i bawb am eu cefnogaeth.
Codwyd swm sylweddol tuag at Mutiple Sclerosis.
Mynegodd Rhiannon hefyd ei diolch i bawb am eu hymateb ac i Llinos am ei gwaith diflino.
Bydd cyfarfodydd yr Adran a’r Aelwyd yn ail ddechrau ar ddiwedd mis Ionawr.
St Peter’s Church
SUNDAY, 31 December: 8am, Holy Communion in English; 10.30am, Morning Worship Bilingual - a special service looking back at the old year and forward to the new one.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.