THE latest community news from Llanarth

Eisteddfod

CYNHELIR Eisteddfod Gadeiriol Llanarth ar ddydd Sadwrn, 7 Hydref, yn neuadd y pentref.

Bydd yr adran agored yn dechrau am 2yp.

Cofiwch hefyd am y cystadlaethau llenyddol, sef Cerdd Ddigri ar y testun ‘Pam?’; Limerig â’r frawddeg gyntaf: ‘Yn Llanarth, bu tipyn o firi’; Brawddeg o’r gair ‘Dyfyniad’ ynghyd â chystadleuaeth gwobr Llenyddiaeth yr Ifanc.

Beirniad yr adran Llên yw Meinir Ebbsworth, Brynamlwg, Llanwnnen, Llambed, Ceredigion SA48 7LT a dylid danfon y cyfansoddiadau iddi erbyn 30 Medi a’r ffug enwau at ysgrifennydd yr eisteddfod, Catrin Bellamy Jones, Pantyrhendy, Llanarth, SA47 0QS, erbyn 2 Hydref.

Llywydd yr eisteddfod fydd Hywel Thomas, Aberaeron.

Os am fwy o fanylion ynglyn â’r eisteddfod, cysylltwch â Catrin ar 01545 580 279.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]