THE latest community news from Llanddewi Brefi
Treialon cwn defaid
AR ddydd olaf o haf, 31 Awst, cynhaliwyd y treialon blynyddol unwaith eto ar fferm Gwyngoed Fach.
Buom yn ffodus, ar ôl dechreuad cawodog, i gael diwrnod digon braf i fedru gwerthfawrogi hefyd y golygfeydd godidog o ddyffryn Teifi odditano.
Diolchir yn gynnes iawn i Eurig a Nerys Pugh, ynghyd ag Owain, Angharad a’r ddau wyr bach, Jac a Hedd, am eu parodrwydd i ymgymryd â’r holl waith sydd ynglwm â darparu lleoliad ar gyfer treialon o’r fath a hefyd am ddefnydd o’u defaid ar gyfer y cystadleuwyr.
Bu’r treialon eleni yn llwyddiant ysgubol gyda 110 o gystadleuwyr – yn eu mysg cystadleuwyr cyn belled a Gwlad Belg, Ffrainc, Iwerddon, Norfolk a Devon – i gyd wrthi’n brwydro’n galed am y gwybrau.
Cafodd y beirniad, John George, Llwynbrain, gyda chynorthwy Sioned ei ferch, dasg drom iawn; bu wrthi’n beirniadu’n ddi-dor o’r cychwyn cynnar yn y bore nes iddi dywyllu’n ormodol i barhau. Diolchir iddyn nhw.
Cafwyd safon yn y cystadlu yn gynnar yn y prynhawn a gwnaeth hyn felly hwyluso’r ffordd i’r 110 i gymryd rhan.
Yn ychwanegol i ddarparu bwyd ar gyfer y beirniad a’r cynorthwywyr i gyd, darparwyd hefyd luniaeth ysgafn gan Nerys ac Angharad ar gyfer y cystadleuwyr a’r gwylwyr, a hyfryd oedd gweld pawb yn cymdeithasu a mwynhau yng nghwmni eu gilydd tra’n gwylio’r cystadlu.
Dyma restr yr enillwyr: Cenedlaethol – Cystadleuaeth Agored, I B Jones, Tim. De Cymru – Cystadleuaeth Agored, I B Jones, Bella. Cenedlaethol – Cystadleuaeth Nofis, John Price, Sam. De Cymru – Nofis, I B Jones, Bella.
Y noson cynt, ar noson braf unwaith eto, cynhaliwyd y ‘Treial Bach’ – cyfyngedig i radiws o 10 milltir ar gyfer cystadleuwyr nofis, eto ar fferm Gwyngoed Fach. Y beirniad oedd John Lewis, Trefaes.
Enillydd y cystadleuaeth Nofis – De Cymru: oedd John Davies, Derry Lodge gyda Sweep.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.