THE latest community news from Llanegryn

Cadair eisteddfod gadeiriol

Cynhelir Eisteddfod Gadeiriol Llanegryn ar 17 Chwefror yn Neuadd Egryn.

Mae’r gadair fydd yn cael ei chyflwyno i’r bardd buddugol wedi cael ei gwneud eleni gan Dylan Jones, saer coed lleol, a’r wobr ariannol o £50 yn rhoddedig gan Siop Spar, Tywyn.

Y bardd a’r newyddiadurwraig Karen Owen, o Benygroes, sydd gyda’r gwaith o feirniadu’r gystadleuaeth.

Gwennant Pyrs fydd yn beirniadu’r cerdd a cherdd dant, gydag Eleri Richards y llefaru a’r alaw werin.

Bydd croeso mawr i bawb yn yr eisteddfod yn ôl yr arfer, ac edrychir ymlaen at weld llu o gystadleuwyr brwdfrydig ar y diwrnod, gyda’r gweithgareddau yn cychwyn am hanner dydd.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]