THE latest community news from Llanfarian
Merched y Wawr a Chymdeithas yr Hebog
DYDD Mercher, 28 Mehefin, daeth amser y wibdaith ddirgel flynyddol, ac eleni tro y gymdeithas oedd trefni.
Dechrau o Lanfarian a mynd tuag at y de i ymweld â Gerddi Aberglasni lle cawsom amser i gael cinio ac i grwydro’r gerddi a’r ty, a syfrdannu ar yr holl greiriau a oedd wedi eu darganfod o dan blynyddoedd o dyfiant a dirywiad treiglad amser.
Nesaf ymweld â chartref William Williams, Pantycelyn gan fod 300 mlynedd eleni ers ei eni. Symudodd yno ar ôl priodi Mari Fransis a chael wyth o blant. Cawsom groeso twyngalon gan y disgynyddion sydd yn byw yno hyd heddiw.
Wedyn ymweld ag Eglwys Llanfair ar y Bryn, Llanymddyfri, lle cawsom hanes yr hen eglwys gan Mr Gealy a gweld desg y Pêr-ganiedydd. Canwyd un o’i emynau cyn ymweld â’i feddrod.
Pawb yn barod wedyn am swper blasus yn ‘Sgubor Teile, Bwlchyllan.
Talwyd diolch i Brinley a Brenda am drefnu ac i Brenda a gyrrwr y bws am ein tywys trwy’r dydd gan y Parch Nick Bee a Beti Wyn.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.